Gwneud cais am gludiant
Sut allaf i wneud cais?
Gallwch wneud cais ar-lein – dyma’r ffordd mwyaf cyflym a chyfleus i wneud cais. Byddwch yn derbyn e-bost ar unwaith yn dweud ein bod wedi derbyn eich cais. Yna byddwch yn derbyn neges ar e-bost gyda chanlyniad yr asesiad cludiant ar gyfer cais eich plentyn.
Cludiant i'r ysgol am ddim
Gallai cludiant am ddim gael ei ddarparu i’ch plentyn, os cyflawnir y meini prawf cymhwyso.
I fod yn gymwys, rhaid i ysgol eich plentyn fod..
- Yr agosaf at gyfeiriad cartref eich plentyn ac os felly,
- O leiaf dair milltir o’r cyfeiriad cartref ar gyfer ysgolion uwchradd, neu ddwy filltir ar gyfer ysgolion cynradd
Gellir gwneud eithriad os bydd eich plentyn yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ffydd, ac nad yr ysgol a ddewiswch yw’r agosaf at eich cyfeiriad cartref. Yn y ddau achos, mae cludiant am ddim ond ar gael os yw eich plentyn yn byw ymhellach na’r pellter isafswm o’r ysgol.
Dim ond plant oed derbyn a hŷn all dderbyn cludiant am ddim i'r ysgol.
Dylai myfyrwyr ôl-16 gysylltu â’u chweched dosbarth neu goleg i wybod am ddewisiadau cludiant preifat sydd ar gael, gan nad ydym yn darparu cludiant i bobl ifanc ôl-16.
Seddi cludiant i'r ysgol am dâl
Os nad yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim, efallai y gallwn ddarparu sedd gadw (byddwch yn talu amdani) ar gludiant ysgol lle mae seddi dros ben ar gael.
- Y pris ar hyn o bryd yw £100 y tymor fesul plentyn (adolygir y gost hon bob blwyddyn). Mae hyn yn £1.58 y dydd am y flwyddyn. Ni all eich plentyn deithio heb docyn dilys a roddwyd gennym ni.
- Efallai na fydd y sedd a roddir ar fws penodol yr un agosaf at eich cyfeiriad cartref, ond bydd yn fws o fewn pellter rhesymol.
- Ni fydd seddi am dâl yn cael eu rhoi nes bod seddi wedi eu neilltuo i bob plentyn sy’n gymwys i gael cludiant am ddim (a gall hyn fod tan ddiwedd Medi yn y flwyddyn ysgol bresennol) Yn y cyfamser, efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau eraill ar gyfer cludiant eich plentyn.
- Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais cludiant i'r ysgol – a nodi ei fod am sedd am dâl. Byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn ar sail y cyntaf i'r felin, a bydd angen i chi ailymgeisio am sedd am dâl bob blwyddyn.
- Gallai’r sedd gael ei thynnu yn ôl ar unrhyw bryd, gan roi rhybudd rhesymol – pan na fydd seddi ar gael oherwydd y galw am gludiant am ddim gan ddisgyblion cymwys, neu pan fod gostyngiad yn nifer y seddi ar y cerbyd. Os bydd hyn yn digwydd a’ch bod eisoes wedi talu'r gost yn llawn am y flwyddyn, byddwn yn ad-dalu unrhyw falans sy'n weddill yn ôl i chi.
Dan Ddeddf Cludiant 1995 [gostyngol] ni ellir cynnig teithiau am dâl lle mae gwasanaeth cludiant cyhoeddus yn rhedeg ar hyd llwybr ysgol ar amseroedd cyfleus ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
Os hoffech chi gofrestru diddordeb i gael sedd pris gostyngol, e-bostiwch school.transport@wrexham.gov.uk gan nodi enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ysgol y disgybl erbyn dydd Gwener 9 Mehefin 2023 fan bellaf.
Pas bws newydd
Bydd yn costio £5.50 i chi i gael pas bws newydd.