Pwrpas y swydd 

Cynorthwyo a darparu cefnogaeth i’r Swyddog Llywyddu ym mhob agwedd o’r bleidlais yn yr orsaf bleidleisio gan gynnwys gweinyddu. 

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

Cyn diwrnod y bleidlais 

Byddwch yn:
 

  • cydymffurfio â’r holl gyfarwyddiadau gan y Swyddog Canlyniadau, Tîm Etholiadau a’r Swyddog Llywyddu
  • mynychu’r sesiynau hyfforddiant fel bo’r angen 
  • cysylltu gyda’ch Swyddog Llywyddu i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer y diwrnod 
  • os ydych chi’n gweithio fel Clerc Pleidleisio am y tro cyntaf, sicrhewch eich bod wedi darllen drwy’r Llyfryn ar gyfer Staff yr Orsaf Bleidleisio o ran cynnal y bleidlais ar y diwrnod 
  • sicrhau eich bod yn cynllunio eich cludiant i ac o’r orsaf bleidleisio a bod gennych yr holl fwyd a diod sydd ei angen arnoch am y diwrnod 
     

Diwrnod yr etholiad

Ar ddiwrnod yr etholiad fe fyddwch: 
 

  • yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar amser i gynorthwyo’r Swyddog Llywyddu i baratoi’r orsaf bleidleisio ar gyfer y diwrnod
  • gosod yr orsaf bleidleisio yn unol â chyfarwyddyd y Swyddog Llywyddu 
  • cyn 7am sicrhewch eich bod yn deall y broses ar gyfer cofnodi’r gofrestr a chyflwyno papurau pleidleisio, yn unol â chyfarwyddyd eich Swyddog Llywyddu 
  • ysgrifennu rhif yr etholwr ar y Rhestr Rhifau Cyfatebol yn erbyn rhif y papur pleidleisio sy’n cael ei roi
  • sicrhewch fod pleidleiswyr yn derbyn un papur pleidleisio ar gyfer pob etholiad neu bleidlais a gynhelir ar ddiwrnod yr etholiad drwy wirio rhif y papur pleidleisio yn erbyn y Rhestr Rhifau Cyfatebol bob tro y cyflwynir un 
  • sicrhau bod yr holl bleidleiswyr yn cael eu trin yn ddiduedd a gyda pharch 
  • cadw cyfrinachedd y bleidlais bob amser gan gynnwys dim sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol o ran pa mor brysur neu ddistaw yw’r orsaf bleidleisio 
  • bod yn gwrtais a phroffesiynol wrth ddelio â’r holl ymwelwyr i’r orsaf bleidleisio a bod yn ddiduedd drwy’r amser 
  • cyflenwi ar ran y Swyddog Llywyddu a’r clercod pleidleisio eraill pan fo’r angen, dylid cymryd pob egwyl yn ystod cyfnodau tawel, os oes modd 
  • gweithio fel tîm gyda’r Clerc(od) Pleidleisio eraill a’r Swyddog Llywyddu 
  • cefnogi’r Swyddog Llywyddu i sicrhau y gall pleidleiswyr gyflwyno eu pleidlais mewn modd cyfrinachol 
     

Cau’r Bleidlais

Wrth gau’r bleidlais fe fyddwch yn: 

  • sicrhau bod unrhyw bleidleiswyr sydd yn y ciw am 10pm yn gallu derbyn eu papurau pleidleisio a chyflwyno eu pleidlais 
  • clirio a thacluso’r orsaf bleidleisio fel bo’r angen 
  • cefnogi’r Swyddog Llywyddu i wirio’r gwaith papur lle bo gofyn 
  • aros yn yr orsaf bleidleisio nes bo’r Swyddog Llywyddu wedi cwblhau’r holl waith papur, yr orsaf bleidleisio wedi’i threfnu a bod yr adeilad yn ddiogel
     

Ayn ogystal â’r dyletswyddau a restrwyd, efallai y gofynnir i chi gyflawni tasgau eraill yn unol â’ch lefel cyflog.

Dyma’r etholiad cyntaf lle bydd gofyn i bleidleiswyr gyflwyno dull adnabod gyda llun cyn derbyn papur pleidleisio. Mae’r newidiadau hyn wedi’u rhestru isod a byddant yn rhan o’r hyfforddiant. 

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 y mesurau canlynol mewn gorsafoedd pleidleisio: 

  • Bydd rhaid i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod dilys â llun cyn cael papur pleidleisio
  • Cefnogaeth ychwanegol i’w gwneud yn haws i bobl sydd ag anableddau bleidleisio
  • Cyfyngiad ar ymdrin â phleidleisiau post
     

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan Etholiadau a phleidleisio.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn unig.   Nid ydynt yn berthnasol i etholiadau lleol neu Senedd Cymru. 

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y broses bleidleisio ar gyfer staff yr orsaf bleidleisio yn y ffyrdd canlynol: 

  • Bydd angen i chi ofyn i bleidleiswyr ddangos dull adnabod â llun cyn rhoi eu papur pleidleisio iddynt. 
  • Bydd angen ardal breifat ar gyfer pleidleiswyr sydd eisiau dangos eu dull adnabod mewn preifatrwydd neu i dynnu gorchudd wyneb neu fasg
  • Bydd y broses o gyflwyno papur pleidleisio yn cymryd mwy o amser, a allai greu mwy o giwio ar adegau prysur 
  • Efallai y bydd angen i Swyddogion Llywyddu wrthod rhoi papur pleidleisio, os nad yw’r pleidleisiwr yn cyflwyno dull adnabod dilys 
  • Bydd gwaith papur ychwanegol i’w gwblhau, fel rhestr gwrthod papur pleidleisio, ffurflen werthuso dull adnabod pleidleiswyr a chofnod manylach o bleidleisiau post sy’n cael eu cyflwyno yn yr orsaf bleidleisio. 
  • Mae’n bosib y bydd mwy o bobl anabl yn pleidleisio gyda chydymaith. 

Efallai y bydd angen i chi gefnogi pleidleiswyr anabl i ddefnyddio unrhyw offer neu ddyfeisiau arbennig.

Manylion am yr Unigolyn

Sgiliau hanfodol

Mae’n rhaid i chi:

  • feddu ar sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau
  • ymddangosiad personol da ac ymrwymiad i ofal 
  • meddu ar sgiliau gweinyddu a rhoi sylw i fanylion
  • bod yn chwaraewr tîm a gydag agwedd hyblyg
  • prydlon a dibynadwy
  • yn fodlon rhannu eich rhif ffôn gydag aelodau eraill o staff sy’n gweithio yn yr un orsaf bleidleisio 
     

Sgiliau Dymunol 

Mae profiad blaenorol o weithio fel Clerc Pleidleisio yn ddymunol. 

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Gorffenaf.