Bwriad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu mwy o dryloywder a bod yn agored ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus.
O dan y Ddeddf, mae gan unrhyw berson hawl gyffredinol i gael mynediad at wybodaeth sydd wedi ei chofnodi a gedwir gennym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).
Mae hyn yn golygu bod yr hawl gennych i:
- Gael gwybod a ydym yn cadw cofnod o'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani.
- Cael copi o’r wybodaeth a ddatgelwyd i chi os yw gennym, oni bai ei bod yn destun un o'r eithriadau yn y Ddeddf.
- Derbyn cyngor a chymorth rhesymol wrth wneud y cais.
Cyfyngiadau ac eithriadau
Mae'r hawliau hyn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r eithriadau a osodir gan y Ddeddf a deddfwriaeth arall.
Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn gwrthod eich cais - mewn achosion o’r fath, byddwn yn eich hysbysu ein bod yn gwrthod eich cais am wybodaeth, ac yn esbonio'r rheswm pam.
Mae llawer o’r cyfyngiadau a’r eithriadau ond yn berthnasol os nad yw er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gan ei datgelu.
Sut y darperir gwybodaeth
Byddwn fel arfer yn dweud wrthych o fewn 20 diwrnod gwaith a ydym yn cadw'r wybodaeth. Gallwch nodi a oes unrhyw ffordd benodol y byddai’n well gennych dderbyn y wybodaeth (er enghraifft ar e-bost).
Pan ddatgelir gwybodaeth, byddwn fel arfer yn darparu copïau o'r cofnodion a gedwir.
Yr hawl mynediad sydd gennych yw'r hawl i gael y wybodaeth, nid i gael copïau o ddogfennau penodol a all gynnwys y wybodaeth. Gall gwybodaeth a ddatgelir fod yn destun hawlfraint neu gyfyngiadau eraill ar ailddefnyddio.
Yr hyn y mae angen i chi ei ddarparu yn y cais
Er mwyn i’ch cais fod yn ddilys o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n rhaid i chi:
- Gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig
- Rhoi eich enw cyntaf a'ch cyfenw go iawn
- Rhoi eich manylion cyswllt
Byddwch mor benodol â phosibl am y wybodaeth yr hoffech ei chael (gan gynnwys dyddiadau er enghraifft), yn hytrach na gofyn cwestiynau cyffredinol.
Os na chawn ddigon o wybodaeth i brosesu eich cais, neu os nad yw'n glir, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi am wneud cais am:
- Wybodaeth bersonol sydd amdanoch chi, dylech wneud eich cais o dan y Ddeddf Diogelu Data yn lle hynny – gweler ein tudalen we ar ‘Eich gwybodaeth bersonol’
- Gwybodaeth amgylcheddol, gwnewch gais o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn lle hynny
Ni chodir tâl am geisiadau syml o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond efallai y codir tâl arnoch am gostau cysylltiedig.
Copïau caled
Mae'r Ddeddf yn caniatáu codi tâl am lungopïo:
- A4 – 7c fesul ochr du a gwyn
- Mwy nag A4 – pris ar gais a chodir tâl am bostio.
Ymholiadau mwy cymhleth
Gellir codi tâl am ymholiadau cymhleth i dalu am amser i swyddogion ddod o hyd i'r data y gofynnwyd amdano, ond byddant yn cydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth/Comisiynydd Gwybodaeth. Codir tâl o £25 yr awr ar gyfer hyn (pan ddefnyddir rhan o awr, bydd y gost yn cael ei haddasu yn unol â hynny).
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gostau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig wrth brosesu eich cais.
Sut mae cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth?
Gallwch hefyd wneud cais ar:
- E-bost - FOI@wrexham.gov.uk
- Post - i’r cyfeiriad ‘Adran Gwybodaeth Gorfforaethol, Cwsmeriaid a Llywodraethu, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY’
Gwneud cwyn
Adolygu mewnol
Os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad ein hymateb.
Bydd angen i chi nodi'r rheswm pam eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad a wnaed.
E-bostiwch foi@wrexham.gov.uk, neu ffoniwch ein switsfwrdd ar 01978 292000 a gofynnwch i siarad â'r Tîm Gwybodaeth Gorfforaethol.
Comisiynydd Gwybodaeth
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad yr adolygiad mewnol, mae gennych hawl i wneud cais i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn uniongyrchol am benderfyniad. Dyma awdurdod annibynnol y DU a sefydlwyd i orfodi’r gyfraith sy'n ymwneud â mynediad y cyhoedd at wybodaeth.