Fel trigolyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gallwch ddweud eich dweud ar geisiadau cynllunio drwy...
- gyflwyno eich sylwadau ar-lein (gan ddefnyddio ein cyfleuster chwilio)
- gysylltu â Prif Swyddog Economi a Chynllunio
- siarad â’ch cynghorydd lleol
- siarad yn ein Pwyllgor Cynllunio (yn amodol ar delerau)
Sut allaf i weld y cais cynllunio yr wyf eisiau lleisio barn arno?
Gallwch chwilio am gais cynllunio gan ddefnyddio ein cyfleuster chwilio. Gallwch chwilio drwy roi cyfeiriad/ardal y mae’r cais yn gymwys (neu rif yr achos os yw’n hysbys). Trwy ddewis rhif yr achos, gallwch weld crynodeb o’r cais a gyflwynwyd.
Gallwch ddewis y botwm “dogfennau” ar dop y tudalen gais i weld y ffurflen gais, lluniau manwl ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Mae holl gynlluniau a cheisiadau cynllunio hefyd ar gael i’w gweld yn ein swyddfa gynllunio lle gallwn ddarparu cyngor yn bersonol, neu egluro’r hyn sy’n cael ei gynnig yn fwy eglur.
Sut i wneud sylw ar gais cynllunio ar-lein
Unwaith i chi ddod o hyd i’r cais cynllunio yr hoffech wneud sylw arno drwy ein cyfleuster chwilio, dewiswch y botwm “gwneud sylw” ar dudalen y cais.
Bydd bocs sylwadau ar gael i chi ychwanegu eich sylwadau a bydd hefyd yn ofynnol i chi ddarparu enw a manylion cyswllt.
Gofynnir i chi os yw eich barn gyffredinol “o blaid” neu “yn erbyn” y cynnig.
Unwaith i chi gyflwyno eich sylwadau, bydd yn cael ei anfon i’r swyddog achos. Bydd y swyddog achos yn ystyried eich barn cyn i benderfyniad gael ei wneud. Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud, bydd modd i chi weld copi o’r hysbysiad penderfyniad trwy’r cyfleuster chwilio.
Croesawir gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg ac ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
Mathau o faterion y gellir eu codi
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi anfon fy sylwadau?
Siarad mewn Pwyllgor Cynllunio
Darlledu cyfarfodydd
Bydd y cyfarfod cynllunio yn cael ei ffilmio ar gyfer darlledu ar ein gwefan ac fe ellir ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi (o fewn y Cyngor). Os nad ydych yn dymuno cael eich ffilmio, gallwch gysylltu â Swyddog y Pwyllgor drwy ffonio 01978 292242. Ni fyddwn yn ffilmio unrhyw siaradwr os nad ydynt wedi rhoi cydsyniad i ymddangos.
Ar ôl gwneud penderfyniad ar gymeradwyo caniatâd cynllunio ai peidio
Byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad i’r ymgeisydd (neu eu hasiant) a byddwn yn hysbysu pobl sydd wedi cyflwyno sylwadau. Bydd y wasg fel arfer yn adrodd am benderfyniadau ar gynigion sylweddol.