Mae’r CDUau yn disodli’r datganiadau o AAA ac, mewn rhai achosion, Cynlluniau Addysg Unigol. Bydd y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac efallai'n cynnwys sawl asiantaeth, gan sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc wrth galon proses gynllunio eu darpariaeth.
Pwrpas y CDU
Mae plant a phobl ifanc yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd a gall eu hanghenion newid dros amser. Mae CDU yn darparu proses barhaus o:
- ddynodi anghenion a darparu gwahanol gefnogaeth yn ôl yr angen
- rhannu gwybodaeth
- cynllunio, gweithredu ac adolygu cynnydd
Yn dibynnu ar gynnydd unigol eich plentyn, mae modd cynyddu, lleihau neu newid y gefnogaeth maent yn ei chael dros amser. Mae hyn yn golygu gallu edrych eto ar benderfyniadau a chamau blaenorol, eu mireinio a'u hadolygu i helpu i gael gwell dealltwriaeth o’ch plentyn. Mae’n eu cefnogi hefyd i wneud cynnydd a'u helpu i wireddu eu gobeithion a'u dyheadau.
Cyflwyno CDUau
Bydd CDUau yn cael eu cyflwyno gam wrth gam, yn dilyn amserlen Llywodraeth Cymru, wrth adolygu datganiadau a Chynlluniau Addysg Unigol cyfredol. Bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, ac yn cael eu creu gyda’r plentyn neu’r person ifanc, a’u rhieni/gofalwyr neu eiriolwr. Mae posib’ eu hadolygu os yw'r wybodaeth neu'r anghenion yn newid hefyd, ar gais y plentyn, person ifanc neu riant/gofalwr.
Dyluniwyd y CDUau hyn i amlinellu ADY plentyn neu berson ifanc, eu dyheadau a thargedau i gyflawni’r rhain. Mae angen CDU ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn DDdY.
Penderfyniadau y gallwch ofyn iddynt gael eu hailystyried
Gall rhieni a phobl ifanc wneud cais i ailystyried rhai penderfyniadau maent yn anghytuno â nhw:
1. ailystyried a oes gan blentyn ADY ai peidio
2. ailystyried CDU ysgol gyda’r bwriad o’i adolygu
3. pennu a ddylem ni gymryd cyfrifoldeb dros gynnal CDU
4. ailystyried penderfyniad ysgol i orffen cynnal CDU
Cyfrifoldebau dros gynnal CDU
Bydd y rhan fwyaf o’r CDUau yn cael eu hysgrifennu a’u cynnal gan ysgolion. Fodd bynnag, mewn rhai achosion cymhleth, gall ysgolion ofyn i ni ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc. Os daw i’r amlwg bod yr anghenion yn rhai cymhleth ac angen sylw arbenigol, efallai y byddwn yn ysgrifennu ac yna'n cyfarwyddo’r ysgol i gynnal y cynllun, neu’n ei gynnal ein hunain.
Fe fyddwn ni’n ysgrifennu ac yn cynnal CDUau i blant nad ydynt o oedran ysgol gorfodol, ac nad ydynt yn mynd i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sydd ag ADY ac angen CDU (drwy Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar).
Mewn achosion o ADY ôl-16, bydd y darparwr addysg ôl-16 yn ysgrifennu ac yn cynnal y CDU yn y mwyafrif o achosion, ond yn atgyfeirio rhai atom ni os oes ADY cymhleth neu luosog. Dim ond pan na fyddai’n rhesymol i ddarparwr addysg ôl-16 gynnig y ddarpariaeth y byddai hyn yn digwydd.
Rydym ni’n gyfrifol am ysgrifennu a chynnal CDU ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref, plant sy'n derbyn gofal, a disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn dau le sydd wedi’u dynodi ag ADY.