Gwasanaethau a grwpiau lleol/rhanbarthol
Sesiwn Galw Heibio Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn sy’n Niwrowahanol, bob dydd Mercher rhwng 10am a 12pm yn yr hwb Lles, lle gallwch sgwrsio, trafod achosion a darganfod lle i gael mwy o gyngor a chefnogaeth.
Canolbwynt Cyfeillgarwch
Crëwyd y Canolbwynt Cyfeillgarwch gan bobl ag anableddau i roi’r cyfle i bobl wneud ffrindiau ac i drefnu sesiynau i gwrdd i fyny. Maen nhw’n trefnu teithiau’r i’r sinema, bowlio, mynd allan am fwyd a chwrdd yn wythnosol i sgwrsio a chynllunio.
Tîm rheoli prosiect - cefnogaeth unigol
Mae’r tîm yn cynnig cefnogaeth ymarferol i unigolion niwroamrywiol ar lawer o bynciau, yn cynnwys:
- Hyfforddiant ffrindiau/perthnasau
- Ymwybyddiaeth Ofalgar
- Cymorth gyda chyllideb
- Addysg ryw
- Sgiliau Coginio
- Sgiliau byw beunyddiol
Am fwy o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad gallwch anfon e-bost at SCProjectManagementTeam@wrexham.gov.uk
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cefnogaeth yn rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys Wrecsam.
Maent yn cynnig:
- Asesiadau o Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) i oedolion (rheiny sy’n 18 oed neu hŷn) sy’n cwrdd â’r meini prawf i gael eu hasesu.
- Gweithdai sy’n cefnogi unigolion awtistig i ddeall eu diagnosis yn well ac i egluro pa wasanaethau cymunedol sydd ar gael.
Mae gan bob sir yng Ngogledd Cymru weithiwr cyswllt sydd yn cynnal canolfannau cyngor / gwybodaeth reolaidd yn eu rhanbarth. Darganfod y dyddiadau a lleoliadau diweddaraf ar Dudalen Facebook Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cymru (dolen gyswllt allanol).