Mae Canolfan Goffa Brynteg yn ganolbwynt cymunedol, a leolir 3 milltir o ganol tref Wrecsam.
Mae ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y ganolfan, gan gynnwys clybiau a digwyddiadau hyfforddiant.
Mae’r adeilad cyfan yn cynnwys mynediad i gadair olwyn. Mae Wi-fi am ddim ar gael ar draws yr adeilad ac mae yna offer TG ar gael i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd.
Mae yna faes parcio am ddim ar gael yn y ganolfan a gellir cyrraedd yno ar gludiant cyhoeddus hefyd.
Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys Llyfrgell Brynteg (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ac oriau agor ar dudalen gwefan ‘eich llyfrgell leol’).
Llogi ystafell allan
Dylech wirio amodau llogi cyn gwneud archeb. I wneud archeb, anfonwch e-bost at bryntegmemorialcentre@wrexham.gov.uk i wirio argaeledd a gofyn am ffurflen archeb.
Manylion ystafell a ffioedd
Mae amryw o ystafelloedd y gellir eu llogi, gyda maint yr ystafell yn amrywio o 15 unigolyn fesul ystafell i 120 o bobl fesul ystafell. Mae’r union le yn dibynnu ar y math o weithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gynnal a’r gwaith gosod rydych ei angen ar gyfer y byrddau a’r cadeiriau.
Gallwn ddarparu lluniaeth am gost o £1 y pen.
Talu am archebu ystafell
Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, gallwch dalu amdano ar-lein.
Unedau busnes
Mae gennym 4 uned fusnes annibynnol i’w llogi fesul mis, ar gyfraddau rhesymol iawn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth gan gynnwys argaeledd.
Cyfeiriad
Canolfan Goffa Brynteg
Ffordd y Chwarel,
Brynteg,
Wrecsam,
LL11 6AB
Canolfan Goffa Brynteg
E-bost: bryntegmemorialcentre@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 722944