Mae Canolfan Adnoddau Parc Llai yn ganolbwynt cymunedol a leolir ond 4 milltir o ganol dinas Wrecsam.

Mae ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y ganolfan, gan gynnwys clybiau a digwyddiadau hyfforddiant (gwiriwch y ddolen Facebook ar y dudalen hon ar gyfer y manylion diweddaraf). 

Mae’r adeilad cyfan yn cynnig mynediad i gadeiriau olwyn ac mae gennym offer codi wedi eu gosod yn llawn mewn 2 o'n toiledau anabl. Rydym yn cynnig Wi-Fi am ddim drwy'r adeilad cyfan ac offer TGCh i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd.

Mae yna faes parcio am ddim ar gael yn y ganolfan a gellir cyrraedd yno ar gludiant cyhoeddus hefyd.  

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys Llyfrgell Llai (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ac oriau agor ar dudalen gwefan ‘eich llyfrgell leol’).

Llogi ystafell allan

Dylech wirio amodau llogi cyn gwneud archeb. I wneud archeb, anfonwch e-bost at lprc@wrexham.gov.uk i wirio argaeledd a gofyn am ffurflen archeb.

Blaendaliadau

Mae blaen-dal na chaiff ei ad-dalu o 25% o’r ffi llogi yn ofynnol adeg llogi (nid yw hyn yn berthnasol i archebion bloc rheolaidd).

Gostyngiadau / ffioedd gostyngol (archebion mewnol ac elusen)

Rydym yn cynnig:

  • Gostyngiad o hyd at 25% ar gyfer archebion mewnol.
  • Gostyngiad tâl llogi ystafell o 25% ar gyfer digwyddiadau / sefydliadau elusennol ar gyfer codi arian lleol.

Taliadau cyffredinol

Taliadau cyffredinol
CyfleusterauFfi
Defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio ym mhob ystafell (fesul sesiwn)£2.50
Ffi ychwanegol am fethu gadael ar amser a gytunwyd i bob ystafell (fesul pob awr neu ran ohoni)£62

Amseroedd sesiwn llogi

Gellir llogi ar gyfer sesiynau bore, prynhawn neu fin nos (mae archebion sesiwn ar gyfer 3 awr o hyd, gyda sesiynau min nos yn gorffen erbyn 10pm fan bellaf).

Manylion ystafell a ffioedd 

Mae yna 2 ystafell ar gael i’w llogi yn y ganolfan hon.  

Mae union gynhwysedd ar gyfer pob ystafell yn dibynnu ar y cynllun rydych ei angen ar gyfer y byrddau a’r seddi.

Ystafell hyfforddiant - ar gyfer hyd at 12 o bobl

Cost fesul sesiwn 3 awr: £44

Mae ystafell TG y ganolfan yn cynnwys 10 gliniadur ar gyfer y cyhoedd gyda meddalwedd Office a chyflwyno, ac argraffydd.

Mae offer TG hybrid ar gael yn yr ystafell, gan gynnwys sgrîn ar wal wedi’i chysylltu gyda gliniaduron.

Ystafell gyfarfod - ar gyfer hyd at 20 o bobl

Cost fesul sesiwn 3 awr: £44

Gyda byrddau cyfarfod hirgrwn mawr ag 16 o Gadeiriau. Dau fwrdd gwyn sefydlog. Mae sgrin taflunydd a siartiau troi ar gael ar gais.

Gellir darparu lluniaeth - archebwch drwy siarad gyda staff caffi Central Park yn uniongyrchol.

Talu am archebu ystafell

Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, gallwch dalu amdano ar-lein.

Talwch rŵan

Caffi Cymunedol (Caffi Central Park) 

Mae gennym gaffi ardderchog ar y safle, gyda man eistedd mawr, i’w ddefnyddio gan unrhyw un yn yr adeilad ar unrhyw adeg. Mae bwyd a diod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am-4pm.

Ar gyfer archebion (cyngor) mewnol mae’r caffi hefyd wedi’i gynnwys ar P2P sy’n ei wneud yn haws i drefnu arlwyo ar gyfer eich cyfarfod neu ddigwyddiad.  

Cyfeiriad

Canolfan Adnoddau Parc Llai
Sgwâr y Farchnad 
Llai 
Wrecsam 
LL12 0SA

Canolfan Adnoddau Parc Llai

Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am logi ystafell, gallwch hefyd ofyn am ymweliad safle os ydych yn dymuno cael golwg o amgylch cyn archebu. 

E-bost: lprc@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 859020