Yn ogystal ag ystafelloedd ar gael i’w llogi, mae’r ganolfan hon yn cynnwys:
- Llyfrgell Gwersyllt (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ac oriau agor ar dudalen gwefan llyfrgell leol).
- Swyddfa ystâd dai Gwersyllt (gweler manylion cyswllt ac oriau agor ar dudalen gwefan swyddfa ystâd dai leol)
- Swyddfa Cyngor Cymuned Gwersyllt
Mae yna hefyd faes parcio am ddim ar gael yn y ganolfan a gellir cyrraedd yno ar gludiant cyhoeddus. Mae Wi-Fi am ddim ar gael ym mhob man yn yr adeilad.
Llogi ystafell allan
Dylech wirio amodau llogi cyn gwneud archeb. I wneud archeb, anfonwch e-bost at gwersylltresource@wrexham.gov.uk i wirio argaeledd a gofyn am ffurflen archeb.
Manylion ystafell a ffioedd
Mae amryw o ystafelloedd y gellir eu llogi, gyda maint yr ystafell yn amrywio o 10 unigolyn fesul ystafell i 120 o bobl fesul ystafell.
Mae’r union le yn dibynnu ar y math o weithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gynnal a’r gwaith gosod rydych ei angen ar gyfer y byrddau a’r cadeiriau.
Gallwn ddarparu lluniaeth am gost o £1 y pen.
Talu am archebu ystafell
Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, gallwch dalu amdano ar-lein.
Ardal atriwm
Mae gennym fan eistedd mawr gwych, i’w rannu gyda phawb sy’n defnyddio’r adeilad ar unrhyw adeg.
Unedau busnes
Mae gennym 2 uned fusnes annibynnol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth gan gynnwys argaeledd.
Cyfeiriad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt
Ail Rodfa,
Gwersyllt,
Wrecsam,
LL11 4ED
Cysylltwch â Chanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt
Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am logi ystafell, gallwch hefyd ofyn am ymweliad safle os ydych yn dymuno cael golwg o amgylch cyn archebu.
E-bost: gwersylltresource@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 722880