Mae dyluniad aml-bwrpas y ganolfan hon yn anelu i fodloni anghenion amrywiol y gymuned.

Mae ein hystafelloedd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae dolen glyw ar gael yn rhad ac am ddim ar gais. 

Darperir WiFi am ddim ar draws yr adeilad, yn ogystal ag ystod o offer TG ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau neu bartïon.   

Mae’r dodrefn sydd ar gael yn y ganolfan yn cynnwys cadeiriau wedi’u clustogi y gellir eu stacio a byrddau plygu.

Llogi ystafell allan

Dylech wirio amodau llogi cyn gwneud archeb. I wneud archeb, anfonwch e-bost at ActonCommunityResource@wrexham.gov.uk i wirio argaeledd a gofyn am ffurflen archeb. 

Blaendaliadau

Mae blaen-dal na chaiff ei ad-dalu o 25% o’r ffi llogi yn ofynnol adeg llogi (nid yw hyn yn berthnasol i archebion bloc rheolaidd).

Gostyngiadau / ffioedd gostyngol (archebion mewnol ac elusen)

Rydym yn cynnig:

  • Gostyngiad o hyd at 25% ar gyfer archebion mewnol. 
  • Gostyngiad tâl llogi ystafell o 25% ar gyfer digwyddiadau / sefydliadau elusennol ar gyfer codi arian lleol.

Taliadau cyffredinol

Taliadau cyffredinol
CyfleusterauFfi
Defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio ym mhob ystafell (fesul sesiwn)£2.50
Defnydd o gyfleusterau coginio fesul sesiwn (os ydynt ar gael)£12
Ffi ychwanegol am fethu gadael ar amser a gytunwyd i bob ystafell (fesul pob awr neu ran ohoni)£62

Amseroedd sesiwn llogi 

Gellir llogi ar gyfer sesiynau bore, prynhawn neu fin nos (mae archebion sesiwn ar gyfer 3 awr o hyd, gyda sesiynau min nos yn gorffen erbyn 10pm fan bellaf).

Manylion ystafell a ffioedd 

Mae amryw o ystafelloedd y gellir eu llogi, gyda maint yr ystafell yn amrywio o 4 unigolyn fesul ystafell i 180 o bobl fesul ystafell. Mae’r union le yn dibynnu ar y math o weithgaredd yr ydych yn bwriadu ei gynnal a’r gwaith gosod rydych ei angen ar gyfer y byrddau a’r cadeiriau.  

Mae’r offer TG sydd ar gael yn cynnwys 11 o liniaduron at ddefnydd y cyhoedd gyda meddalwedd Office a chyflwyno.

Gallwn ddarparu lluniaeth am gost o £1 y pen.

Ystafell gyfarfod - ar gyfer hyd at 12 o bobl

Pris fesul sesiwn: £33 

Un bwrdd ystafell fwrdd wedi’i rannu (pump darn), 12 cadair. Bwrdd gwyn sefydlog.

Gliniadur, taflunydd data, seinyddion, sgrin taflunydd a siartiau troi ar gael ar gais.

Ystafell hyfforddiant - ar gyfer hyd at 22 o bobl

Pris fesul sesiwn: £44 

Un bwrdd cyfarfod wedi’i rannu (pedwar darn), 22 cadair. Bwrdd gwyn sefydlog, gliniadur, taflunydd data, sgrîn, uned sain a siart troi.

Prif neuadd (Neuadd 1 a Neuadd 2 gyda’i gilydd) – ar gyfer hyd at 180 o bobl

Pris fesul sesiwn: £62

Neuadd fawr, fodern gyda lle ar gyfer hyd at 180 o bobl (arddull theatr gyda seddi). Llwyfan symudol ar gael ar gyfer darlithoedd a digwyddiadau am ffi ychwanegol.  

Mae’r llawr yn bren lled hyblyg ac yn addas ar gyfer gweithgareddau hamdden, ffitrwydd a chwaraeon ysgafn.

Gyda gliniadur, taflunydd data a sgrin sefydlog, system sain.

Siartiau troi ar gael ar gais.

Gellir rhannu’r neuadd yn ddau fan cyfarfod ar wahân.

Neuadd 1 neu Neuadd 2 – ar gyfer hyd at 60 o bobl

Pris fesul sesiwn: £44

Gellir rhannu’r brif neuadd yn ei hanner gan ddefnyddio wal wrthsain, i greu Neuadd 1 a Neuadd 2.

Seddi arddull theatr. 

Neuadd 3 – ar gyfer hyd at 60 o bobl

Pris fesul sesiwn: £62 

Ystafell hunangynhwysol gyda thoiledau a chegin fach. Seddi arddull theatr.

Cegin

Ffi fesul sesiwn (defnydd o gyfleusterau coginio): £12 

Cegin fawr gyda chyfleusterau arlwyo domestig gyda byrddau arddull caffi a mannau eistedd meddal. I'w rhannu gyda holl ddefnyddwyr yr adeilad ar unrhyw adeg benodol.

Talu am archebu ystafell 

Unwaith y bydd eich archeb wedi’i gadarnhau, gallwch dalu amdano ar-lein. 

Talwch rŵan

Cyfeiriad

Rhodfa Owrtyn
Acton
Wrecsam
LL12 7LB

Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton

Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am logi ystafell, gallwch hefyd ofyn am ymweliad safle os ydych yn dymuno cael golwg o amgylch cyn archebu. 

E-bost: ActonCommunityResource@wrexham.gov.uk
Tel: 01978 359795