Rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn berchen ac yn rhedeg pump Canolfan Adnoddau Cymunedol mewn cymunedau lleol ar draws Wrecsam. Maent yn cael eu defnyddio gan bobl leol, sefydliadau a’n gwasanaethau ein hunain; ar gyfer ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau.  

Llogi ystafell

Rydym yn cynnig neuaddau o feintiau gwahanol, yn ogystal â lolfeydd ac ystafelloedd cyfarfod llai, sydd ar gael i’w llogi.  

Mae pob canolfan yn cynnwys cegin; sy’n golygu y gellir gweini lluniaeth ac mae rhai canolfannau yn gallu darparu ar gyfer bwydlen fwy. 

Rydym yn gallu cynnig ffioedd llogi gostyngol ar gyfer archebion a drefnir yn rheolaidd. Rydym hefyd yn gallu cynnig ffi ostyngol (drwy raddfa safonol o 25%) ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac i godi arian yn lleol.

Amseroedd sesiwn llogi 

Gellir llogi ar gyfer sesiynau bore, prynhawn neu fin nos (mae archebion sesiwn ar gyfer 3 awr o hyd, gyda sesiynau min nos yn gorffen erbyn 10pm fan bellaf).

Mwy am gyfraddau gostyngol

  1. Grym dewisol i ostwng y ffioedd arferol o 25% ar gyfer digwyddiadau a sefydliadau elusennol ac i godi arian yn lleol.
  2. Mae gan y Pennaeth Adran y grym dewisol i ostwng ffioedd ar gyfer archebion rheolaidd/bloc. 
  3. Mae gan y Pennaeth Adran y grym dewisol i ostwng ffioedd ar gyfer unrhyw archeb, yn unol â chynllun dirprwyo grymoedd i swyddogion. 

Gosod yn fasnachol

Bydd y ffi llawn arferol yn berthnasol ar gyfer ystafelloedd.

Blaendaliadau

Mae blaen-dal na chaiff ei ad-dalu o 25% o’r ffi llogi yn ofynnol adeg llogi (nid yw hyn yn berthnasol i archebion bloc rheolaidd).

Nid oes yna drwydded alcohol mewn lle ar gyfer yr eiddo hyn.  Fel y llogwr, eich cyfrifoldeb chi fydd trefnu unrhyw drwydded digwyddiad dros dro sydd ei angen. 

Nid ydym yn gallu darparu ar gyfer partïon pen-blwydd 16, 18 neu 21 oed oherwydd cyfyngiadau mewn cyfraith trwyddedu.

Canolfannau yn Wrecsam 

Gallwch wybod am gyfleusterau penodol a ffioedd llogi ar gyfer pob canolfan.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y Neuadd Goffa y gellir ei llogi ar gyfer ystod o ddigwyddiadau hefyd.

Ar gyfer beth mae ein canolfannau yn cael eu defnyddio?

Mae’r canolfannau yn cael eu defnyddio’n nodweddiadol at sawl diben, gan gynnwys:   

  • cyfarfodydd mawr (er enghraifft cynghorau cymuned, cymdeithasau preswylwyr a thenantiaid, cymorthfeydd cynghorydd lleol ac ASau)
  • digwyddiadau codi arian a gweithgareddau grwpiau gwirfoddol
  • grwpiau chwarae
  • clybiau ieuenctid
  • grwpiau pobl hŷn
  • clybiau crefft
  • grwpiau iechyd a ffitrwydd
  • Meddygfeydd