Os bydd gennych unrhyw bryderon am addysg eich plentyn gallwch fel arfer eu datrys drwy siarad â phennaeth yr ysgol, athro dosbarth neu aelod arall o staff .
Gwneud cwyn ffurfiol
Os bydd gennych gwyn am ysgol, mae'n rhaid i chi gyflwyno’r gwyn honno yn uniongyrchol i’r ysgol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ysgolion drwy ein rhestr o ysgolion.
Rydym yn argymell eich bod yn gofyn i’r ysgol am gopi o’u polisi cwynion fel y gallwch ddeall yn union sut y byddant yn delio â’ch cwyn.
Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio a chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau o staff, llywodraethwyr, aelodau o’r gymuned ac eraill.
Dylai gweithdrefn cwynion ysgolion gynnwys manylion mwy penodol am bob un o’r camau hyn.