Prif bwrpas ein Gwasanaeth Polisi Cynllunio yw llunio Cynllun Datblygu. Mae Cynllun Datblygu yn nodi polisïau penodol ar ddefnydd tir ac adeiladau. Mae’r polisïau yma’n darparu fframwaith i benderfyniadau lleol a chymodi rhwng yr angen i ddatblygu gyda buddiannau cadwraeth, a chael y buddiannau cymunedol mwyaf.
Y Cynllun Datblygu presennol yw Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam, a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2005. Yn y dyfodol bydd yn cael ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Lleol Wrecsam.
Yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru - y polisi cenedlaethol sydd yn amlinellu canllawiau i wneud penderfyniadau cynllunio
Mae nodiadau cyngor technegol (TAN) yn rhoi cyngor cynllunio manwl. Mae awdurdodau cynllunio lleol yn eu hystyried wrth iddynt baratoi cynlluniau datblygu
Gallwch gysylltu â’n Hadran Gynllunio os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.