Mae gan gynghorwyr yr hawl i dderbyn cyflog, ac mae ganddynt hawl i lwfansau teithio. Taliad ychwanegol yw’r rhain i gynghorwyr sydd â chyfrifoldeb ychwanegol.
Hawliadau cyflog a threuliau
Nid yw cynghorwyr yn gosod eu cyflogau eu hunain. Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sydd yn gyfrifol am benderfynu ar lefelau taliadau aelodau etholedig.
Gwiriwch beth yw’r cyflog sylfaenol blynyddol, yn ogystal â’r taliadau ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau ychwanegol.
Mae’n cynnwys crynodeb o dreuliau teithio a chynhaliaeth y gallwch hawlio amdanynt fel aelod.
Cynllun pensiwn
Mae gan gynghorwyr hefyd hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sydd yn gynllun pensiwn statudol sydd yn cael ei ariannu. Mae’n ddiogel iawn gan fod ei fuddion wedi eu diffinio drwy gyfraith.
Mae uchafbwyntiau’r CPLlL yn cynnwys:
- cyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn ymddeol
- pensiwn blynyddol yn seiliedig ar eich cyflog cyfartalog gyrfa
- y gallu i gynyddu eich pensiwn trwy dalu cyfraniadau ychwanegol
- ymddeol yn wirfoddol o 55 oed
- ymddeol o 50 i 54 oed gyda chaniatâd eich awdurdod
- pensiwn salwch o unrhyw oed
- cyfandaliad marw yn y swydd o ddwywaith eich cyflog cyfartalog gyrfa
- pensiwn eich priod neu bartner sifil (yn ogystal ag unrhyw blant cymwys)
- buddion yn gysylltiedig â mynegai i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chwyddiant
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun wedi’i ddarparu fel rhan o’ch pecyn cynefino os cewch chi’ch ethol.