Mae yna gymwysterau penodol y mae angen i chi eu bodloni er mwyn gallu sefyll mewn etholiad.
Etholiadau llywodraeth leol
Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru, rhaid i chi:
- fod yn 18 oed neu’n hŷn
- fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu ddinesydd mewn unrhyw aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd neu fod yn ddinesydd tramor cymwys, a
- bodloni o leiaf un o’r pedwar cymhwysedd canlynol:
- Rydych chi, a byddwch chi’n parhau i fod, wedi cofrestru fel etholydd llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol rydych chi’n dymuno sefyll ynddi o ddyddiad eich enwebiad ymlaen.
- Eich bod wedi meddiannu fel perchennog neu denant unrhyw dir neu eiddo arall yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
- Eich prif neu unig fan gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebiad a dyddiad yr etholiad oedd yn ardal yr awdurdod lleol.
- Eich bod wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
Mae’n cynnwys eglurhad manwl o gymwysiadau ac anghymhwysiadau os ydych chi’n ystyried sefyll mewn etholiad, yn ogystal â chanllawiau ymgyrchu ac ariannu.
Etholiadau cyngor cymuned
Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad cyngor cymuned, rhaid i chi:
- fod yn 18 oed neu’n hŷn
- fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu ddinesydd mewn unrhyw aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd neu fod yn ddinesydd tramor cymwys, a
- bodloni o leiaf un o’r pedwar cymhwysedd canlynol:
- Rydych chi, a byddwch chi’n parhau i fod, wedi cofrestru fel etholydd llywodraeth leol ar gyfer ardal y gymuned leol rydych chi’n dymuno sefyll ynddi o ddyddiad eich enwebiad ymlaen.
- Eich bod wedi meddiannu fel perchennog neu denant unrhyw dir neu eiddo arall yn ardal y gymuned yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
- Eich prif neu unig fan gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebiad a dyddiad yr etholiad oedd yn ardal y gymuned.
- Eich bod wedi byw yn ardal y gymuned neu o fewn tair milltir iddi yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
Mae’n cynnwys eglurhad manwl o gymwysiadau ac anghymhwysiadau os ydych chi’n ystyried sefyll mewn etholiad, yn ogystal â chanllawiau ar ymgyrchu ac ariannu.
Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn gynghorydd lleol efallai y byddwch chi’n dymuno ystyried sefyll fel ymgeisydd mewn cyngor cymuned neu dref yn gyntaf, gan ennill profiad gwerthfawr.