Dysgwch fwy ynglŷn â bod yn gynghorydd os oes gennych chi ddiddordeb sefyll mewn etholiad i naill ai Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu gynghorau tref/cymuned yn Sir Wrecsam.
Ynglŷn â’r cyngor
Fel cyngor lleol rydym ni’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â llawer o wasanaethau sydd yn effeithio ar fywydau preswylwyr yn Wrecsam.
Rydym yn gweithredu trwy adrannau – mae gan bob un gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau penodol sydd yn cefnogi nodau strategol a pholisïau corfforaethol y Cyngor.
Siarad gyda chynghorwyr presennol
Mae Cynghorwyr yn dod i gyswllt â’r cyhoedd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd y Cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn gyfle i unrhyw breswylydd mewn ward siarad gyda’u cynghorydd.
Mae nifer o’n cynghorwyr yn weithgar ar gyfryngau cymdeithasol hefyd lle gallwch gysylltu â nhw.
Sefyll mewn etholiad
Bod yn gynghorydd lleol
Beth mae swydd cynghorydd yn ei olygu?
Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli'r gymuned a’i phreswylwyr. Maent yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, eu hariannu a’u blaenoriaethu.
Gall cynghorwyr lleol hefyd helpu i gynnal partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau sydd yn annibynnol o’r cyngor, ond sydd yn cael effaith ar ei feysydd gwasanaeth. Maent yn gwneud hyn drwy fod yn aelod o bwyllgorau a fforymau sydd yn gyfrifol am y cyrff allanol yma.