Ar ba ddiwrnod bydd y bolardiau’n mynd yn fyw?

Dydd Llun 14 Ebrill, 2025.

Faint o’r gloch bydd y bolardiau i fyny?

Mae’r bolardiau'n codi am 11.30am ac yn disgyn am 6am bob dydd (gall cerbydau gael mynediad rhwng 6am ac 11.30am).

Pryd gall cerbydau dosbarthu nwyddau gael mynediad at ganol y ddinas?

Gall cerbydau dosbarthu nwyddau gael mynediad rhwng 6am ac 11.30am. 

Mae 2 fae llwytho wedi'u marcio'n benodol ar y Stryt Fawr y dylid eu defnyddio. Ni ddylid parcio cerbydau ar y droedffordd wrth ddosbarthu nwyddau.

A fydd modd i fasnachwyr gael mynediad ar adegau eraill?

Na, bydd angen iddynt gadw at yr un amseroedd â phob cerbyd arall. 

Beth os oes angen gwneud gwaith/angen penodol arall sy’n golygu bod angen parcio yng nghanol y ddinas na ellir ei wneud yn ystod yr amseroedd y mae'r bolard i lawr?

Gallwch wneud cais am oddefeb parcio. Bydd yn cael ei ystyried fesul achos ac mae Cyngor Wrecsam yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais a wneir. 

Rhaid gwneud cais 5 diwrnod ymlaen llaw ac os caiff ei gymeradwyo, rhaid gwneud taliad lle bo'n berthnasol o fewn 24 awr.

Beth ydw i'n ei wneud os oes rhaid i mi drefnu gwaith brys i'r adeilad?  

Mae busnesau a thrigolion yng nghanol y ddinas wedi cael manylion y rhif i’w ffonio os oes angen mynediad brys.

Beth os byddaf yn sylwi ar nam ar y bolardiau?

Gellir adrodd am ddiffygion i bollards@wrexham.gov.uk  

A allaf gael mynediad drwy'r amser?

Na, gwaherddir mynediad rhwng 11.30am a 6am ar gyfer pob cerbyd ac eithrio'r rhai ar restr gymeradwyo awtomatig neu sydd wedi cael goddefeb parcio wedi'i chymeradwyo.

Pwy sy'n gyfrifol am y bolardiau?

Cyngor Wrecsam, ac mae’r bolardiau'n cael eu monitro'n uniongyrchol gan deledu cylch cyfyng.

A fydd achlysuron pan na fydd y bolardiau wedi’u codi?

Na, bydd bolardiau i fyny bob dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Rwy'n byw yng nghanol y ddinas, a allaf gael mynediad?

Oni bai bod gennych le parcio dynodedig, ni allwch gael mynediad a bydd angen i chi barcio yn rhywle arall os oes gennych gerbyd. 

Os oes gennych le dynodedig, cysylltwch â bollards@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Pa strydoedd sy'n cael eu heffeithio?

  • Stryt Yorke
  • Stryt Caer
  • Stryt Siarl
  • Stryt Henblas
  • Stryt Fawr
  • Stryt yr Hôb
  • Stryt y Rhaglaw
  • Stryt y Lampint
  • Allt y Dref Uchaf
  • Stryt yr Eglwys
  • Stryt y Syfwr
  • Sgwâr y Frenhines

Rwy’n yrrwr tacsi, a allaf gael mynediad trwy’r bolardiau er mwyn codi/gollwng cleientiaid?

Bydd gan Apollo Taxis fynediad gan fod eu swyddfa o fewn yr ardal dan waharddiad yng nghanol y ddinas. Mae ganddynt fynediad at Stryt Siarl yn unig. 

Ni chaniateir mynediad arall ar gyfer tacsis/cerbydau hacni.