Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn cydnabod yr effaith y mae addysg a dysgu yn ei gael ar bob grŵp oedran ac yn Wrecsam mae gennym lawer o ysgolion da a sefydliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i bartneriaid wedi gweithio’n galed i sicrhau fod ein holl ddysgwyr yn cael yr un cyfleoedd i addysg o safon uchel drwy wella ein cynnig fel Awdurdod Lleol i gefnogaeth, her ac ymyrraeth i greu system gynaliadwy sy’n gwella ei hun. Wrth symud ymlaen mae’n hanfodol ein bod yn gwella canlyniadau a dyheadau addysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol gan ddarparu cyfleoedd i’n dysgwyr wireddu eu potensial, waeth beth yw eu hoedran, cefndir neu amgylchiadau, gan roi’r cyfle gorau posib i’n dysgwyr mewn bywyd.
Wrth wneud hyn rydym yn cydnabod fod bwlch sylweddol yn parhau mewn canlyniadau addysgol o fewn ac ar draws grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr sydd wedi’u heffeithio gan dlodi. Wrth gydweithio gyda’n partneriaid, byddwn yn cefnogi dysgwyr i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Byddwn yn darparu cynnig anghenion dysgu ychwanegol effeithiol, yn darparu amgylcheddau dysgu hygyrch, gwella pontio rhwng camau dysgu a chanolbwyntio ar ymyraethau cynnar i gefnogi dysgwyr i oresgyn heriau a chyfrannu’n weithredol i’w dysgeidiaeth. Ymdrechwn i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn canlyniadau addysgol, gan gynnwys lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyflawniad dysgwyr a chefnogi ein dysgwyr i gael iechyd a lles emosiynol gwell.
Wrth wella canlyniadau addysgol rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwahanol gamau o addysg a dysgu a sut mae pob cam yn effeithio ar y nesaf. Felly mae’r flaenoriaeth hon yn ymwneud â mwy na dim ond ein dysgwyr oedran ysgol ond hefyd yn ymwneud â darparu sgiliau am oes. Byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu cwricwlwm eang yn unol â Chwricwlwm Newydd Cymru a chefnogi ein plant a phobl ifanc i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog gan sicrhau eu bod yn barod ac yn cael eu cefnogi i gael mynediad at brentisiaethau, cyfleoedd hyfforddiant, addysg uwch ac ail-hyfforddi. Rydym eisiau canolbwyntio ar wella cyfleodd dysgu gydol oes a byddwn yn parhau i ddatblygu a chyflwyno darpariaethau dysgu i oedolion, trwy weithio gyda’n partneriaid a’r ystod o leoliadau addysg sydd gennym o fewn y Fwrdeistref Sirol. Byddwn yn rhoi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau ac i godi a chyflawni eu dyheadau.
Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato:
*yn dynodi Amcan Cydraddoldeb Strategol
- Er mwyn cefnogi ein huchelgeisiau economaidd a lles ar gyfer Wrecsam, mae deilliannau dysgwyr o bob oed yn well, maent yn gallu gwireddu eu potensial a dod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu cymunedau.
- Caiff ein dysgwyr eu cefnogi i ymgysylltu â’u haddysg ac i fod â dyheadau; gwneud y mwyaf o sgiliau newydd, hyfforddiant a chyfleoedd dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Dylai ein dysgwyr fynychu’r ysgol yn rheolaidd gyda mwy o blant a theuluoedd yn cael eu cefnogi ar gam cynharach er mwyn cynyddu presenoldeb, gwella diogelu a lleihau’r nifer o waharddiadau a gwella ymddygiad.
- Mae ein dysgwyr yn cyfrannu’n weithredol at eu dysgu eu hunain ac mae eu gwytnwch, eu hiechyd a’u lles wedi’u cefnogi gan gydweithio gyda’n partneriaid.
- * Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi i wella eu canlyniadau addysgol, a bydd anghydraddoldebau mewn canlyniadau rhwng gwahanol grwpiau o ddysgu yn cael eu lleihau.
- * Mae ein dysgwyr yn cael profiad dysgu cadarnhaol trwy fynediad at amgylchedd sy’n hygyrch ac yn addas i’r diben ac yn caniatáu dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Mae’r flaenoriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at y Nodau Lles canlynol:
- Cymru Lewyrchus
- Cymru Gydnerth
- Cymru sy’n Fwy Cyfartal
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu