Fel dinas newydd Cymru, a oedd ar y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025, a Tŷ Pawb wedi’i enwebu ar gyfer Amgueddfa'r Flwyddyn gyda chyllid sylweddol wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed Cymru, nid yw Bwrdeistref Sirol Wrecsam erioed wedi bod mewn sefyllfa well i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a datblygu economi gref a llewyrchus, gan ddarparu cyfoeth, cyfleoedd, cymdogaethau diogel ac iach a chefnogi buddsoddiad mewnol hirdymor parhaus ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau allweddol.
Gyda’r pedwerydd GDP uchaf yng Nghymru (£27,595 y pen) mae’r economi yn perfformio’n dda ond mae heriau’n parhau. Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad yn Wrecsam a rhanbarth Mersi a Dyfrdwy, byddwn yn datblygu cyfleoedd economaidd ac yn creu amodau deniadol ar gyfer twf busnes a hybu entrepreneuriaeth i greu cyflogaeth a chyfoeth lleol. Cydnabyddir Wrecsam fel canolbwynt diwydiant a masnachu yng Ngogledd Cymru. Rydym yn ymdrechu i ddod yn arweinydd byd yn y sectorau digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch er mwyn denu a chadw swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda yn yr ardal, ac i ddatblygu cadernid economaidd.
Fel y mwyafrif o strydoedd mawr ar draws y DU, mae canol y dref wedi gweld dirywiad yn ei gynnig manwerthu. Mae ein Cynllun Creu Lleoedd yn dangos bwriad ar gyfer canol dinas ddeniadol, fywiog ac wedi’i hail-ddychmygu gydag egwyddorion a fydd yn lledaenu buddion drwy’r Fwrdeistref Sirol ehangach. Bydd gwelliannau yn y parth cyhoeddus, teithio llesol ac eiddo gwag/problemus yn cefnogi cread lleoliadau ar gyfer diwylliant, chwaraeon, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.
Mae diweithdra yn 4.9% ar hyn o bryd, sydd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 3.6% (ffigyrau ONS 2022) gyda salwch hirdymor yn cynrychioli’r rhwystr fwyaf i waith. Ein nod yw lleihau ac atal anghydraddoldebau mewn cyflogaeth trwy dargedu’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r gweithlu a chynyddu swyddi diogel sy’n talu’n dda er mwyn cyfrannu tuag at Gymru gydnerth, lewyrchus, iach a mwy cyfartal.
Mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi ehangach sir Wrecsam ond mae’n dal i adfer ar ôl Covid gyda gwariant ymwelwyr yn £101.02m yn 2021, o’i gymharu â £135.65m yn 2019. Bydd darparu Cynllun Rheoli Cyrchfan Wrecsam gyda’n partneriaid yn rhoi map llwybr integredig i adferiad, gan gynnwys datblygiadau yn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato:
*yn dynodi Amcan Cydraddoldeb Strategol
- Mae Wrecsam yn ymgysylltu’n effeithiol yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan weithio mewn cydweithrediad i adeiladu economi mwy bywiog, cadarn, cynaliadwy a chysylltiedig ar gyfer Gogledd Cymru, trwy ddarparu Bargen Twf Gogledd Cymru a datblygu statws o fewn Pwerdy’r Gogledd.
- Mae Wrecsam yn cael ei hysbysebu a’i gydnabod yn rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol fel canolbwynt bywiog o ddiwydiant a masnach, gyda’r gallu i fodloni’r galw am fewnfuddsoddiad a chreu’r amodau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad masnachol ac er mwyn i fusnesau sydd eisoes yn bodoli dyfu.
- Mae gan Wrecsam Ganol Dinas dwys, amrywiol ac entrepreneuraidd gyda chymysgedd briodol o ddefnydd manwerthu, preswyl ac adloniant, trwy weithredu Cynllun Creu Lleoedd a fydd yn cynyddu hyder ar gyfer buddsoddwyr ac entrepreneuriaid a chefnogi gostyngiad mewn eiddo gwag.
- Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam broffil uchel fel cyrchfan ymwelwyr sylweddol yng Ngogledd Cymru a’r Rhanbarth Mersi a Dyfrdwy ehangach. Cawn ein hadnabod am ein cynnig diwylliannol sy’n cynnwys cymunedau trefol a gwledig (gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte), ein treftadaeth pêl-droed, ein hunaniaeth Gymreig a’n gallu i gynnal digwyddiadau mawr yn y Cae Ras, wedi’i gefnogi gan ddarpariaeth Uwchgynllun Porth Wrecsam.
- Mae cyfraddau cyflogaeth uchel a chyflenwad da o swyddi hygyrch sy’n talu’n dda. Canfyddir ac eir i’r afael â bylchau mewn sgiliau ynghyd â chyfleoedd gan arwain at dechnolegau a marchnadoedd newydd. Mae pobl sy’n profi rhwystrau yn cael eu cefnogi i sicrhau swyddi a chael mynediad a safleoedd cyflogaeth ac mae llwybrau gwella i gyflogaeth ar gyfer grwpiau lleiafrifol.
Mae’r flaenoriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at holl Nodau Lles Cymru:
- Cymru Lewyrchus
- Cymru Gydnerth
- Cymru Iachach
- Cymru sy’n Fwy Cyfartal
- Cymru â Chymunedau Cydlynol
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
- Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-Eang