Mae gwastraff swmpus yn golygu eitemau sy’n rhy fawr neu’n rhy drwm i gael gwared â hwy drwy’r casgliadau biniau arferol (eitemau megis dodrefn, nwyddau gwynion a chyfarpar yr ardd).
Gellwch drefnu i gael gwared ag eitemau swmpus y cartref ar-lein, a byddwn yn casglu’r eitemau gennych. Gellir casglu hyd at wyth eitem am isafswm o £57.50 (bydd ffioedd ychwanegol ar gyfer mwy nag wyth eitem, gyda phob eitem ychwanegol yn costio £10).
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gyfer eitemau swmpus domestig yn unig. Dydyn ni ddim yn casglu unrhyw eitemau swmpus masnachol.
Archebu Casgliad Gwaredu Eitemau Swmpus o’r Cartref
Eitemau y gellir eu cynnwys mewn casgliadau eitemau swmpus o’r cartref
Eitemau y gallwn eu cymryd...
- Dodrefn (yn cynnwys byrddau, cadeiriau, switiau, gwelyau, matresi, cypyrddau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad)
- Nwyddau gwyn (yn cynnwys oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau)
- Cyfarpar garddio (yn cynnwys peiriannau torri gwair bach, offer garddio, byrddau a chadeiriau gardd, barbeciws, beics)
- Carped (darnau bychain o garped ac isgarped - toriadau neu garpedi maint un ystafell yn unig)
- Offer trydanol ac electronig (yn cynnwys cyfrifiaduron, setiau teledu)
Os yw eich casgliad yn cynnwys eitemau trydanol rhaid i chi nodi hyn wrth archebu.
Eitemau na allwn eu cymryd...
- Gwastraff gardd (gan gynnwys gwair / toriadau gwrychoedd, coed)
- Pren (gan gynnwys siediau, ffensys, byrddau sgyrtin, pendrawstiau, ffyn crafanc, dodrefn wedi torri, cytiau cŵn)
- Metel (gan gynnwys bariau haearn, haearn rhychog, drysau garej, giatiau)
- Deunyddiau DIY (gan gynnwys brics, blociau, concrid, pibellau, landeri, plastrfwrdd, paent)
- Gosodiadau (gan gynnwys llefydd tân, ceginau, dodrefn ystafell ymolchi, drysau, gwresogyddion, gwresogyddion storio, silindrau / tanciau dŵr, systemau gwresogi, ffyn canllaw grisiau, ffenestri, drysau llithro, tanau gyda gwydr ar eu blaen)
- Amrywiol (yn cynnwys asbestos, gwagu cartrefi, gwelyau haul, tanciau olew, silindrau nwy, rhannau o geir, storfeydd glo concrid, pianos)
- Bagiau (yn cynnwys gwastraff cartref, gwastraff gardd)
Dim ond casgliad ymyl palmant y mae’r cyngor yn ei gynnig o ran gwastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaethau casglu pellach ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd neu rwbel. Os oes gennych wastraff gardd nad yw’n ffitio yn eich bin gwyrdd gallwch fynd ag ef i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.
Opsiynau amgen ar gyfer gwaredu eitemau swmpus o’r cartref
Gallwch fynd ag eitemau sy’n rhy fawr neu sy’n rhy drwm i’ch bin arferol i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref lleol.
Mae nifer o lefydd hefyd lle gallwch gyfrannu dodrefn yn Wrecsam.