Os ydych chi’n cael problemau talu eich Treth y Cyngor, peidiwch ag anwybyddu’r peth gan mai dim ond gwneud pethau’n waeth fydd hyn a gallai arwain at gostau ychwanegol i chi.
Llythyr Atgoffa
Os nad ydych yn llwyddo i dalu rhandaliad, byddwch yn derbyn hysbysiad atgoffa, yn caniatáu saith niwrnod i wneud taliad. Os talwch y rhandaliad(au) a fethwyd o fewn saith diwrnod gallwch barhau i dalu rhandaliadau misol. Os na lwyddwch i wneud hyn, bydd y cyfanswm llawn am y flwyddyn yn daladwy.
Ail hysbysiad atgoffa
Os methwch â thalu rhandaliadau’r eilwaith, cewch lythyr atgoffa arall. Os methwch â thalu o fewn saith diwrnod byddwch yn colli’ch hawl i dalu’n fisol a bydd y balans cyfan yn daladwy
Hysbysiad atgoffa terfynol (trydydd hysbysiad atgoffa)
Os ydych eisoes wedi cael dau lythyr atgoffa ac wedi talu’r rhandaliadau a fethwyd o fewn saith diwrnod ar ôl cael y llythyrau atgoffa, ac yn methu am y trydydd tro yna bydd y swm llawn sy’n weddill yn daladwy ar unwaith.
Wedi i chi golli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni godi gŵys am y balans a’r costau ychwanegol. Ar hyn o bryd, mae’r costau hyn yn £40 am y gwys a £30 am y gorchymyn atebolrwydd.
Lle alla i gael cyngor?
Gallwch drafod eich Treth y Cyngor gydag ymgynghorydd y cyngor ac mae’r sefydliadau hyn hefyd yn cynnig cyngor am ddim a gallant gysylltu â ni ar eich rhan...