Mae Yr Orsedd yn bentref mawr tua 6.5 milltir i’r gogledd o Wrecsam, gerllaw’r ffin â Swydd Gaer a Lloegr. Mae ffordd ddeuol yr A483 a’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer yn rhedeg ar hyd ffin orllewinol y pentref. Mae afon Alun yn llifo i’r de cyn troelli i’r gogledd-ddwyrain lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy, ac mae’r afon yn dynodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r cefn gwlad amgylchynol yn wastad ac yn cael ei ffermio’n ddwys a cheir digonedd o wrychoedd a choedwrychoedd. Mae golygfeydd pell ar draws y ffermdir gwastad agored i’r gogledd a’r dwyrain lle mae’r bylchau yn y datblygiadau a’r gwrychoedd isel yn caniatáu. I’r de a’r gorllewin mae’r dirwedd yn fwy dramatig yn erbyn cefnlen bryniau Cymru.
Cafodd Ardal Gadwraeth Yr Orsedd ei dynodi ym mis Hydref 2011. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Yr Orsedd ym mis Hydref 2011. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Yr Orsedd i rym ym mis Ionawr 2012.
Diwygiad – Ionawr 2022
Mae’r diwygiad canlynol wedi’i wneud i Gynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth yr Orsedd, a fabwysiadwyd yn ystod cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol ar 4 Hydref 2011.
Paragraff 2.6. (cyfeiriad at leoliad Rossett Hall mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth yr Orsedd):
“Mae Rossett Hall, a elwir yn hanesyddol yn The Rossett, a Trevalyn House, sydd i’r de o’r pentref, yn dyddio’n ôl i ganol y ddeunawfed ganrif ac er eu bod wedi’u haddasu a’u hestyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, mae’r nodweddion Sioraidd gwreiddiol i’w gweld hyd heddiw. Codwyd Rossett Hall ar gyfer James Boydell, aelod o deulu blaenllaw yn y pentref a stiwardiaid Trevalyn Hall a’r stad o ganol y ddeunawfed ganrif tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Alyn Cottage, sydd gyferbyn ag Eglwys Christ, hefyd yn dyddio’n ôl i’r cyfnod hwn a hwn oedd tŷ agweddi Rossett Hall.”