Mae Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor i'r gogledd-orllewin o ganol masnachol y dref ac mae'n ymgorffori Ffordd Grosvenor, Ffordd y Llwyni a rhannau o Ffordd Bradle, Stryt y Rhaglaw, Maes Caxton, Stryt y Brenin, Ffordd Rhosddu a Ffordd Parc y Llwyni. Mae rhan o gampws Coleg Iâl ynddi hefyd. 

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor am y tro cyntaf ym mis Medi 1990 a newidiwyd ei ffin ym mis Gorffennaf 2007. Mabwysiadwyd Cynllun Asesu a Rheoli Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor ym mis Ebrill 2009. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Stryt Gerallt i rym ym mis Gorffennaf 2007.