Mae Ardal Gadwraeth Dyfrbont Pontcysyllte yn cynnwys rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, sy’n ymestyn o Fasn Trefor, lle mae camlas Llangollen yn dod i ben yn anheddiad Pontcysyllte, i gyfeiriad y de mor bell ag anheddiad Froncysyllte. Mae’r ardal gadwraeth i’r de-orllewin o Trefor, 6 milltir i’r de o Wrecsam a 3 milltir i’r dwyrain o Langollen. Mae ffordd hanesyddol yr A5 rhwng Llundain a Chaergybi, a adeiladwyd gan Thomas Telford, yn rhedeg i’r de drwy bentref Froncysyllte. I’r gogledd mae ffordd yr A539 i Riwabon, ac anheddiad Trefor. Yr adeiladwaith mwyaf amlwg yw Dyfrbont Pontcysyllte.
Mae’r ardal gadwraeth yn llinol o ran ei siâp gyda’r echelin yn cyfateb yn fras i’r Gogledd - De. Mae’n cynnwys adeileddau allweddol a oedd yn bwysig i ddatblygu basn y gamlas ac mae’n amlwg yn wahanol i’r ardaloedd o dai o’r 20fed ganrif a saif gerllaw i’r gogledd a’r de. Mae’n cynnwys lleoliad hanfodol y Dyfrbont ei hun, yr arglawdd a’r adeiladau cysylltiedig.
Cafodd Ardal Gadwraeth Basn Trefor ei dynodi ar 6 Gorffennaf 1998 a’i hymestyn a’i hailenwi yn Ardal Gadwraeth Dyfrbont Pontcysyllte ar 14 Gorffennaf 2009. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Dyfrbont Pontcysyllte ym mis Gorffennaf 2009. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Dyfrbont Pontcysyllte i rym ym mis Awst 2009.