Gallwch weld lefelau diweddaraf ansawdd aer mewn safleoedd ar draws Cymru, gan gynnwys Wrecsam, ar wefan Llywodraeth Cymru Ansawdd Aer yng Nghymru (dolen gyswllt allanol).
Adrodd am faterion llygredd
Adrodd am lygredd
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i adrodd am lygredd (gan gynnwys llygredd a achosir gan dannau gwyllt, gollyngiadau cemegol, allyriadau simneiau, a mwg).
Adrodd am niwsans mwg
Byddwn yn ymchwilio i unrhyw gwynion am niwsans mwg statudol os ydynt o dannau gwyllt domestig neu eiddo masnachol/diwydiannol megis safle adeiladu.
Er mwyn i fwg gael ei ystyried fel niwsans statudol, rhaid iddo unai:
- Ymyrryd yn rheolaidd, sylweddol ac yn afresymol gyda’r defnydd neu fwynhad o gartref neu eiddo arall
- Niweidio iechyd neu’n debygol o niweidio iechyd
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i adrodd am niwsans mwg: