Pan fydd rhywun yn marw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac nad oes perthnasau na ffrindiau i drefnu angladd, rydym yn derbyn atgyfeiriadau i drefnu angladd ar eu rhan. Gwneir hyn oherwydd bod dyletswydd arnom ni (Cyngor Wrecsam) i wneud hynny o dan adran 46 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Efallai y byddwn yn hawlio costau'r angladd o'r ystâd lle mae digon o arian.

Nid yw'r ddyletswydd hon yn berthnasol pan fydd rhywun yn marw yn yr ysbyty, neu mewn ambiwlans ar y ffordd i'r ysbyty. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr awdurdod iechyd yn gwneud trefniadau.

Os bydd yr unigolyn yn marw mewn cartref gofal, yna bydd trefniadau angladd fel arfer yn cael eu gwneud gan berthnasau neu wasanaethau cymdeithasol, a allai fod yn rheoli arian yr ymadawedig.

Yn anffodus, ni allwn ddarparu unrhyw gymorth os yw'r angladd eisoes wedi'i gynnal neu os yw rhywun eisoes wedi cymryd cyfrifoldeb am yr angladd.

Pa wasanaeth fyddai modd ei ddarparu?

Pan fyddwn ni’n trefnu angladd iechyd y cyhoedd, gallwn ni wneud y canlynol:

  • trefnu amlosgiad, oni bai bod yr ymadawedig wedi nodi fel arall
  • trefnu gwasanaeth angladd sylfaenol sy’n cydymffurfio cymaint â phosibl gyda chredo'r ymadawedig
  • rhoi hysbysiad yn y wasg

Ceisiadau am wybodaeth angladd iechyd y cyhoedd

Gofynnir i ni yn aml am wybodaeth am bobl sydd wedi marw heb unrhyw berthynas agosaf, ystadau Bona Vacantia ac ystadau sydd wedi cael eu cyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, neu Ddugiaeth Caerhirfryn neu Gernyw. Mewn ymateb i'r ceisiadau hyn, rydym yn rhyddhau'r wybodaeth sylfaenol ganlynol sy'n ymwneud ag angladdau iechyd y cyhoedd.

Noder nad yw’r angladdau hyn yn cynnwys y rhai a wneir gan y gwasanaethau cymdeithasol neu'r awdurdod iechyd

Crynodeb o fanylion angladdau iechyd y cyhoedd
Teitl   CyfenwEnw (au) cyntafOedran  Dyddiad geniDyddiad marwolaethCyfeiriwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys
MrJonesLindsay6516/03/196801/03/2023Naddo
MrRandlesThomas Brinley7602/01/194721/02/2023Naddo
MrDaviesGerald William8231/10/194002/10/2022Naddo
MrDaviesJohn Byron6321/01/195929/12/2022Naddo
MrLargartoRui Maximiano5116/12/197107/01/2023Naddo
MrRomanovAleksandr4505/01/197708/11/2022Naddo
MrAndersonEric Charles6604/06/195616/11/2022Naddo
MrCuffinJamie Cameron3102/04/199108/06/2022Naddo
MrKalinowskiRobert Rafal4607/09/197528/03/2022Naddo
MrFidlerWilliam Graham7902/05/194214/11/2021Naddo
MsJonesCarol Ann6903/01/195204/08/2021Naddo
MrGriffithsMark5316/06/196804/09/2021Naddo
MrThomasMichael7230/10/194924/07/2021Naddo
MrHaleyBrian7303/08/194712/05/2021Naddo
MissPykePauline9128/07/192926/03/2021Naddo
MrBrufordPaul7005/03/195129/03/2021Naddo
MrHughesCarl6029/07/196022/12/2020Naddo
Miss Oakley Jacqueline Lesley6326/04/195706/12/2020Naddo
MrAnsoniaGareth William5411/10/196618/10/2020Naddo
MrParryPhilip5515/02/196519/10/2020Do
Mr RobertsEdward Haydn6224/12/195813/10/2020Naddo
MrCiesnowskiZdzislaw4229/01/197827/08/2020Naddo
MrJonesWilliam Neil6530/01/195502/06/2020Naddo
MrEdwardsTerrence6009/01/196001/06/2020Naddo
MrRaconRenford8811/08/193116/04/2020Naddo
MrJonesTrevor8316/10/193613/03/2020Naddo
MrParkerDerek Brian8724/07/193206/03/2020Naddo
MrBirchBasil Montgomery7413/05/194509/02/2020Naddo
MrNovelliLouis Noel Edington7918/12/194103/02/2020Do
MrScrutonLeslie Thomas8306/02/193630/01/2020Naddo
MrJenkinsSteven4717/04/197203/12/2019Naddo
MrRobertsDeryn Emlyn6114/04/195821/02/2019Naddo
MrFormstoneGeorge8105/10/193709/01/2019Do
MsHughesDonna Marie4615/08/197210/12/2018Naddo
MrJonesPhilip6507/10/195212/05/2018Naddo
MsSmithElizabeth Rosemary7609/08/194220/01/2018Naddo
MrPoveyGeorge6610/10/195107/12/2017Naddo
MrSmithChristopher Joseph6725/12/194925/11/2017Naddo
MrMarquesJoao Manuel4502/04/197217/09/2017Naddo
MissRobertsMavis Elizabeth7025/02/1947 13/08/2017Naddo
MrFerreira LopesCesar Luis5605/06/196011/05/2017Naddo
MrKeating    Paul4901/02/196603/01/2016Naddo
MrO'ReillyPhilip8214/01/193301/07/2015Naddo
MrWoodEdgar James6726/01/194825/08/2015Naddo
Mr RobertsMark Timothy5512/03/196013/08/2015Naddo
MrSatterleyJoseph William6909/05/194903/08/2015Do
MsHughesCarol Ann5229/04/196119/10/2013Naddo
MrEvansJohn Anthony5114/02/196213/06/2013Naddo
MrRichardsonMichael Jeffrey6303/11/194805/06/2012Naddo
MrBlackwellNorman6920/06/194208/04/2012Naddo
MrDaviesGlyn Malcolm7912/11/193231/12/2011Do
MissDaviesJean Margaret8816/06/192318/08/2011Naddo
MrTaylorGary Edward5206/05/195914/07/2011Naddo
Mr JonesRobert John6925/02/194201/06/2011Naddo
MissSamuelsonAuriel7519/02/193616/03/2011Naddo

Mwy o fanylion am geisiadau am wybodaeth

Rydym ni (Cyngor Wrecsam) o'r farn bod gwybodaeth fanwl sy'n ymwneud ag angladdau iechyd y cyhoedd (y tu hwnt i'r wybodaeth a gyhoeddir gan y cyngor) wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu. Gwneir yr eithriad hwn o dan adrannau 31 (gorfodi'r gyfraith) a 41 (gwybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“DRhG”). 

Atal troseddau ac amddiffyn gwybodaeth perthnasau byw

O dan adran 3(1) (a) o DRhG, gellir dal gwybodaeth yn ôl os byddai neu y byddai'n debygol o wneud drwg i atal neu ganfod trosedd. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn rhyddhau unrhyw wybodaeth a fyddai’n datgelu cyfeiriad yr ymadawedig. Rydym o'r farn bod prawf budd y cyhoedd o ran osgoi gwneud drwg i atal trosedd yn gorbwyso budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth hon.

Mewn perthynas ag adran 41 o DRhG, rydym o'r farn, wrth ddelio â materion yr ymadawedig, bod dyletswydd cyfrinachedd yn codi i gynrychiolwyr personol yr ymadawedig ac y byddai datgelu gwybodaeth fanwl yn torri'r ymddiriedaeth honno. Mae adran 41 yn eithriad llwyr ac felly nid oes rheidrwydd arnom i ystyried prawf budd y cyhoedd.

Ystadau

Mae gwefan Llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth am adran “Bona Vacantia” Cyfreithiwr y Trysorlys, sy’n delio â rhai ystadau (fel arfer y rhai sydd â gwerth net o £500 neu fwy) lle nad oes ewyllys neu berthynas agosaf ar gael.