Lle cyfeirir atom ‘ni’ ar y dudalen hon, mae’n sôn am Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei rôl fel awdurdod lleol.

Mae gennym set o egwyddorion a ddefnyddir wrth benderfynu a yw’n rhesymol i ysgol drefnu / darparu’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen ar ddisgybl, neu a ddylem ni wneud hynny.

Yr egwyddorion

Ynghyd â chyrff llywodraethu, byddwn yn defnyddio’r egwyddorion canlynol wrth weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a defnyddio’r Cod Ymarfer:

  • Datblygu darpariaeth ysgol gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc ymhob maes lle mae anghenion.
  • Ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn cyfranogi’n llawn lle bynnag y bo modd. 
  • Cydnabod barn rhieni/gofalwyr i sicrhau eu bod yn cyfrannu’n llawn at wneud penderfyniadau.
  • Sicrhau proses eglur ar gyfer nodi, asesu, cynllunio, darparu ac adolygu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol gyda nhw a’u rhieni/gofalwyr yn y ganolfan.
  • Darparu cwricwlwm eang a chytbwys er mwyn ennyn cyfranogiad yr holl blant a phobl ifanc ar bob lefel a hyrwyddo diwylliant dysgu cynhwysol.
  • Sicrhau darpariaeth gyfartal i’r holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny ag ADY ac eraill.
  • Galluogi plant a phobl ifanc gydag ADY i gyflawni eu potensial.
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i holl staff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY.

Partneriaeth â theuluoedd

Mae disgyblion yn ganolog i bopeth a wnawn a byddwn yn cydweithio â theuluoedd i gyflawni’r canlyniadau gorau i’r disgyblion. 

Yr ydym wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda theuluoedd yr holl ddisgyblion. Cydnabyddwn bwysigrwydd cyfathrebu rhwng y cartref, yr ysgol a’r awdurdod lleol.

Dylid rhoi gwybod i rieni’n gyson am gynnydd y dysgwyr a’u hannog i chwarae rhan weithredol yn y dysgu a gweithio at y targedau a bennwyd. Dylai rhieni sydd â phryderon am eu plant drafod y rhain yn gyntaf gyda’r athro dosbarth a fydd yn hysbysu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol os bydd angen.

Dylid cynnwys rhieni ymhob rhan o’r drefn adolygu gan ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ar ffurf hygyrch a rhoi digon o rybudd o gyfarfodydd fel bod gan rieni/gofalwyr amser i baratoi.

Yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddorion a nodir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru a nodir ym Mhennod 3, yn cynnwys:

“3.1. Mae’r egwyddorion sy’n ategu’r system ADY yn ceisio cefnogi creu system addysg gwbl gynhwysol lle caiff pob dysgwr gyfle i lwyddo a chael mynediad at addysg sy’n diwallu eu hanghenion a’u galluogi i gyfranogi mewn dysgu, elwa ohono a’i fwynhau.

3.2. Yr egwyddorion sy’n sail ar gyfer y drefn ADY yw:

(a)    Dull sy’n seiliedig ar hawliau lle mae safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn, eu rhiant neu’r person ifanc yn ganolog i gynllunio a darparu cefnogaeth; a lle galluogir y plentyn, eu rhiant neu’r unigolyn ifanc i gyfranogi mor llawn â phosib yn y prosesau penderfynu a bydd ganddynt hawliau gwirioneddol i herio penderfyniadau ynglŷn ag ADY, darpariaeth ddysgu ychwanegol a materion cysylltiedig.
(b)    Mynd ati’n gynnar i adnabod anghenion, ymyrryd ac atal a threfnu’r ddarpariaeth cyn gynted â phosib, ac os oes modd, rhoi ymyriadau ar waith i atal ADY rhag datblygu neu ddwysau.
(c)    Cydweithio ac integreiddio rhwng gwasanaethau er mwyn sicrhau y caiff ADY eu hadnabod yn gynnar ac y darperir cefnogaeth gydlynol a phriodol er mwyn galluogi plant a phobl ifanc i gyflawni disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau cadarnhaol.
(d)    Addysg gynhwysol lle caiff y mwyafrif o blant a phobl ifanc ag ADY eu cefnogi i gyfranogi’n llawn mewn addysg prif ffrwd a lle dilynir dull lleoliad cyfan wrth ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.
(e)    System ddwyieithog lle caiff pob cam rhesymol eu cymryd i ddarparu DDY trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chwmpas ar gyfer cynyddu darpariaeth DDY trwy gyfrwng y Gymraeg dros amser.”

Yr ydym hefyd wedi ymrwymo i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA) fel y nodir yn y cod:

“3.11. Caiff y dull sy’n seiliedig ar hawliau ei gryfhau ymhellach gan y dyletswyddau sydd ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i roi ystyriaeth i’r CCUHP a’r CCUHPA wrth gynllunio yn gyffredinol ar gyfer arfer y swyddogaethau.”

Mathau o ddarpariaeth

Darpariaeth gyffredinol

Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol yw'r gefnogaeth sydd ar gael i bob dysgwr yn yr ysgol neu'r lleoliad ac yn yr ystafell ddosbarth.

Byddai hyn yn cynnwys:

  • Gwahaniaethau: Mae’r gwahaniaethu yn hynod ddatblygedig, gymaint felly fel bod y disgyblion yn gwybod pam eu bod angen eu hymestyn neu eu cefnogi ac yn cymryd rhan mewn cynllunio profiadau dysgu. 
  • Addasiadau rhesymol
  • Addysgu o ansawdd uchel

Darpariaeth gyffredinol wedi’i thargedu

Darpariaeth gyffredinol sydd ar gael i ddisgyblion sydd angen ymyriadau wedi eu targedu pan nad oes digon o gynnydd.

Mae Cod ADY 2021 (tudalen 37) yn pwysleisio pwysigrwydd canfod anghenion cefnogaeth yn gynnar, fel a ganlyn:

“3.2 (b) Mynd ati’n gynnar i adnabod anghenion, ymyrryd ac atal a threfnu’r ddarpariaeth cyn gynted â phosib, ac os oes modd, rhoi ymyriadau ar waith i atal ADY rhag datblygu neu ddwysau.”

Pan nodir nad yw’r cynnydd cystal â’r disgwyl, gallai fod angen rhoi ymyriadau / strategaethau ar waith sy’n targedu’r maes lle mae gwendidau gan y plentyn neu unigolyn ifanc. Mae’r Cod ADY 2021 (tudalen 229) yn esbonio:

“20.14. Os nad yw’r cynnydd yn ddigonol, bydd angen cymryd camau ychwanegol neu wahanol i’r dysgwr allu dysgu mewn ffordd fwy effeithiol. 

Yr ymateb cyntaf i gynnydd annigonol, yn aml, fyddai targedu meysydd gwendid penodol dysgwyr. Disgwylir i bob lleoliad addysg gyflwyno addysgu gwahaniaethol neu ymyriadau penodol eraill, gyda’r nod o sicrhau gwell cynnydd, lle bo’n briodol, i bob dysgwr.  

Bydd ar y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc angen dull gwahaniaethol mewn rhyw agwedd ar eu haddysg ar ryw adeg. Mae hyn yn elfen sylfaenol o addysgu o ansawdd uchel – ond arferol.”
me aspect of their education at some point. This is a fundamental element of high quality – but routine – teaching.”

Mae’r cod hefyd yn egluro:

“20.15. Nid yw addysgu gwahaniaethol o'r fath, ynddo'i hun, yn gyfystyr â DDdY ac nid yw'r ffaith bod angen dull gwahaniaethol ar blentyn neu berson ifanc yn golygu bod ganddo ADY. Bydd DDdY yn golygu darpariaeth addysgol ychwanegol neu wahanol, sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn gyffredinol.”

Darpariaeth ddysgu ychwanegol

Mae hyn yn golygu darpariaeth sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r hyn a roddir fel arfer i blant / pobl ifanc eraill o’r un oedran.

Disgrifir y broses yn y Cod ADY 2021 (tudalen 230):

“20.16. Os fydd cynnydd yn parhau i fod yn llai na’r disgwyl ac os yw’r defnydd o addysgu gwahaniaethol neu ymyraethau safonol wedi’u targedu wedi methu mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plentyn neu unigolyn ifanc a’u cyfoedion, byddai hyn yn dangos i’r ysgol, Sefydliad Addysg Bellach neu awdurdod lleol fod gan y plentyn neu unigolyn ifanc ADY.”

Er mwyn penderfynu a oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (ac yn wir a oes yno ADY) mae’n rhaid i’r ysgol fod wedi casglu tystiolaeth, a dylai bod ymdrech wedi ei gwneud i dargedu’r meysydd lle mae gwendidau gan y plentyn neu unigolyn ifanc drwy ddefnyddio darpariaeth gyffredinol / darpariaeth gyffredinol wedi’i thargedu.

Yr ydym yn cytuno â’r egwyddor bod plant yn mynd i’w hysgolion lleol ac yn dod yn rhan bwysig o’u cymunedau, fel y disgrifir yng Nghod ADY 2021 (tudalen 37):

“3.2 (d) Addysg gynhwysol lle caiff y mwyafrif o blant a phobl ifanc ag ADY eu cefnogi i gyfranogi’n llawn mewn addysg prif ffrwd a lle dilynir dull lleoliad cyfan wrth ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.”

Er mwyn galluogi hyn, mae ysgolion wedi dirprwyo cyllid cynhwysiant sy’n benodol ar gyfer cefnogi’r dysgwyr hynny sy’n cael darpariaeth gyffredinol, darpariaeth wedi ei thargedu a DDdY.  Oherwydd hyn, disgwyliwn y bydd ysgolion yn gallu cefnogi’r mwyafrif o ddysgwyr heb yr angen am gefnogaeth gennym ni. 

Bydd y cyllid yn talu am gostau staffio am ba bynnag hyd o amser y mae angen y gefnogaeth, ynghyd ag adnoddau fel y bo’n briodol; yn unol â chyllideb ddirprwyedig yr ysgol. 

Dim ond os oes gan ysgol ddigon o dystiolaeth i ddangos nad yw’n rhesymol iddi sicrhau DDdY, y byddwn ni’n ystyried unrhyw ffurf o newid lleoliad. Eto, ni chaiff hyn ei ystyried heb fod yna dystiolaeth helaeth i ddangos beth yn union yw’r ADY, pa fath yn union o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen, a pham na fedr yr ysgol gynnig hynny. 

Byddwn hefyd yn disgwyl bod yr ysgol wedi mynd drwy’r dull graddedig gyda’r plentyn neu berson ifanc a dangos bod yr ymyriadau a chyngor ar strategaethau wedi cael eu dilyn am gyfnod digonol o amser.

I hwyluso’r atgyfeiriad hwn i ni, byddai angen i’r ysgol gael tystiolaeth fel y disgrifiwyd yn gynharach a dod â’r dysgwr i sylw Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Byddai DDdY ar gyfer plentyn neu berson ifanc gydag anghenion mwy cymhleth (pan fo’n afresymol i’r ysgol sicrhau’r DDdY) yn cynnwys:

  • Lle mewn lleoliad arbenigol
  • Ymateb yn raddol wrth gynnal y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn lleoliad arbenigol, gan ddibynnu ar anghenion y plentyn neu unigolyn ifanc.

Caiff lleoliadau mewn darpariaeth arbenigol a gynhelir gennym ni a lleoliadau y tu allan i’r sir eu penderfynu gan ein Panel Cynhwysiant. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, lle pennir bod y dysgwr angen darpariaeth arbenigol, byddwn yn cyfarwyddo’r ysgol i gynnal y CDU.

Er y bydd y rhan fwyaf o Gynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu cynnal gan ysgolion, byddwn yn paratoi ac yn cynnal CDU i blant a phobl ifanc gydag ADY sy’n derbyn gofal, sydd â chofrestriad deuol, neu sy’n cael eu lleoli mewn lleoliad annibynnol arbenigol.

Cyngor ac asesiadau

Yr ydym yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol sydd ar gael i leoliadau a gynhelir drwy gyfuniad o drefniadau a gomisiynir ac a gyllidir yn ganolog. Mae’r rhain am ddim ar bwynt mynediad i bawb. 

Mae graddau a hyd y cyngor yn benodol i bob gwasanaeth a hefyd anghenion yr unigolyn.

Offer

Bydd disgwyl i’r ysgol ddarparu’r rhan helaeth o’r offer sydd ei hangen ar ddysgwyr drwy ei chyllideb ddirprwyedig. 

Pan mae angen offer iechyd arbenigol, fodd bynnag, bydd y Panel Offer Arbenigol yn dal i’w ddarparu a cheir mynediad ato ar sail atgyfeiriadau iechyd nad yw ysgolion yn medru eu gwneud yn uniongyrchol. Daw’r atgyfeiriadau fel arfer o’r gwasanaethau Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol.