Ein cyfrifoldebau ni
1. Rhaid i ni roi cyngor a chymorth i chi ac unrhyw un sy'n byw gyda chi, os byd dwch yn rhoi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwynion, yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd ac yn cymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r broblem.
Eich cyfrifoldebau chi
2. Rydych chi'n gyfrifol am ymddygiad pawb (gan gynnwys plant) sy'n byw yn eich cartref neu'n ymweld â chi. Rydych chi'n gyfrifol am eu hymddygiad yn eich cartref, ar dir cyfagos, mewn mannau sy'n cael eu rhannu, yn yr ardal o gwmpas eich cartref ac un unrhyw un o'n hadeiladau.
3. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt achosi niwsans neu fod yn debygol o achosi niwsans i wylltio neu beri gofid i unrhyw un arall.
4. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt wneud unrhyw beth sy'n amharu ar dawelwch, cysur neu gyfleustra unrhyw un arall neu'n debygol o amharu arnynt.
5. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt aflonyddu neu fygwth aflonyddu unrhyw un arall.
6. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt wneud cwynion ffug neu faleisus yn erbyn ymddygiad unrhyw un arall.
7. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt fod yn dreisgar na bygwth bod yn dreisgar yn erbyn unrhyw un arall. Mae hyn yn cynnwys bod yn dreisgar neu fygwth unrhyw un arall sy'n byw yn eich cartref.
8. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt aflonyddu, bod yn dreisgar neu fygwth bod yn dreisgar nac ymddwyn yn ymosodol tuag at unrhyw un o'n gweithwyr, asiantau, contractwyr neu gynghorwyr.
9. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt arddangos na chaniatáu i unrhyw un arddangos unrhyw bosteri, negeseuon, cyfathrebiadau neu ddelweddau sarhaus nac aflan mewn unrhyw ran o'ch cartref y gellir ei gweld gan bobl ar yr ystad o gwmpas eich cartref neu unrhyw ymwelwyr cyfreithiol â'ch cartref neu dir cyfagos.
10. Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gydymffurfio ag unrhyw arwyddion a arddangosir mewn adeiladau, ardaloedd sy'n cael eu rhannu neu ar yr ystad yn ymyl eich cartref (er enghraifft, dim chwarae â pheli).
11. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gyflawni unrhyw weithgareddau anfoesol neu anghyfreithlon (fel puteindra, meddu ar gyffuriau, gwerthu cyffuriau, ymosod ac ati).
12. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt ddifrodi na rhoi graffiti ar unrhyw eiddo. Os byddwch yn gwneud hynny bydd raid i chi roi'r eiddo yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol. Os na fyddwch yn gwneud hyn o fewn cyfnod amser rhesymol, gallem wneud unrhyw waith trwsio neu amnewid sydd ei angen a chodi tâl arnoch am hyn. Efallai y byddwn yn codi tâl arnoch cyn gwneud y gwaith.
13. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt ymyrryd ar offer diogel wch neu ddiogeledd. Mewn blociau sy'n cael eu rhannu, ni ddylech adael drysau ar agor na gadael i bobl ddieithr ddod i mewn heb wybod pwy ydynt. Pediwch a gadael drysau tan ar agor heblaw mewn achosion brys.
14. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt dorri unrhyw rai o'n his-ddeddfau lleol. Gellwch ofyn i gael gweld yr is-ddeddfau yn Neuadd y Dref, Wrecsam.
15. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt barcio unrhyw gerbyd mewn modd sy'n achosi rhwystr i bobl eraill neu eu cerbydau.
16. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt yrru, parcio neu fynd ar gefn unrhyw gerbyd ar ymylon glaswellt, lawntiau neu lwybrau troed.
17. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt adael sbwriel yn unman. Dylech roi sbwriel y cartref neu wastraff y gellir ei ailgylchu yn y man casglu (y byddwn yn sôn wrthych amdano) ar ddiwrnod y casgliad neu'r diwrnod cyn y casgliad os yw'r sbwriel yn cael ei gasglu'n gynnar yn y bore. Dim ond eitemau yr ydym ni'n eu casglu fel rhan o'r casgliad arferol y dylid eu rhoi allan a dylai'r rhain fod mewn fagiau neu gynhwysyddion priodol.
18. Ar ôl i ni gasglu'r sbwriel neu'r gwastraff y gellir ei ailgylchu, rhaid i chi wneud yn siwr eich bod yn casglu'r cynhwysydd priodol o'r man casglu ar yr un diwrnod.