1. Rhaid i chi dalu eich rhent (ac unrhyw gostau eraill dan y cytundeb hwn) bob dydd Llun am yr wythnos honno. Byddwn yn cyfrifo eich rhent (ac unrhyw gostau eraill ar gyfer eich cartref) fel eich bod yn cael pedair wythnos bob blwyddyn pan na fyddwn yn casglu rhent gennych. Os byddwch ar ei hôl hi â'ch rhent neu gostau eraill dan y cytundeb hwn, ni fydd yr wythnosau hyn yn berthnasol i chi a dylech dalu unrhyw rent a chostau eraill ar gyfer eich cartref yn ystod yr wythnosau hyn.
2. Os na fyddwch yn talu eich rhent neu unrhyw gostau eraill ar gyfer eich cartref, gallwn fynd i'r llys i'ch troi allan o'r eiddo. Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu unrhyw gostau eraill, dylech gysylltu â'ch swyddfa dai leol ar unwaith.
3. Os oes mwy nag un tenant wedi'i enwi ar y cytundeb hwn, mae bob un ohonoch yn gyfrifol am dalu'r rhent ac unrhyw rent sy'n ddyledus. Gallwn gael yr holl rent sy'n ddyledus ar eich cartref yn ôl gan unrhyw gyd-denant. Felly, os bydd un tenant yn gadael, bydd y tenant neu'r tenantiaid eraill yn gyfrifol am dalu unrhyw rent sy'n dal i fod yn ddyledus.
4. Mae'n bosibl i ni newid y rhent. Byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig o leiaf pedair wythnos cyn i ni wneud unrhyw newidiadau i'r rhent. Wrth osod lefel y rhent, rhaid i ni ddilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cymru a rhaid cael cymeradwyaeth gan ein Bwrdd Gweithredol.
5. Efallai y byddwn yn newid y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu sy'n cael eu cynnwys yn y rhent wythnosol neu yr ydym yn codi tâl ychwanegol ar eu cyfer. Byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig o leiaf pedair wythnos cyn i ni wneud unrhyw newidiadau i gostau gwasanaethau.
6. Mae'n rhaid i ni roi cofnod diweddar i chi o'ch cyfrif rhent os byddwch yn gofyn am un. Byddwn yn anfon cyfriflen atoch bob tri mis fel cofnod o'ch cyfrif rhent.
7. Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sy'n ddyledus i ni o denantiaeth flaenorol - fel ôl-ddyledion rhent neu'r gost o drwsio unrhyw ddifrod. Os na fyddwch yn cadw at gynllun ad-dalu a drefnir, gallwn fynd i'r llys i gael caniatâd cyfreithiol i'ch troi allan o'ch cartref.
8. Gallwn wneud didyniadau o unrhyw arian sy'n ddyledus i chi i dalu unrhyw dali adau rhent sydd wedi'u methu neu unrhyw gostau eraill sy'n ddyledus gennych o'r denantiaeth hon neu denantiaeth flaenorol.
9. Rhaid i chi dalu unrhyw daliadau eraill yr ydym yn eu codi dan y cytundeb ten antiaeth hwn, er enghraifft, cost trwsio unrhyw ddifrod yr ydych chi'n gyfrifol amdano.