Systemau gwresogi gwael
Os ydych yn rhentu’n breifat, eich landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gosodiadau sy’n darparu gwres i’r eiddo yn gweithio (yn cynnwys sicrhau bod atgyweiriadau’n cael eu gwneud os oes angen).
Gall eich landlord ddarparu gwres yn defnyddio tanwydd o unrhyw fath, ond dylai ystyried effeithlonrwydd a chost y tanwydd.
Dylid sicrhau bod y systemau / offer gwresogi a ddarperir yn yr eiddo:
- Yn gallu cael eu rheoli gan bob meddiannydd
- Yn ddiogel ac wedi’u gosod a’u cynnal yn gywir
- Yn briodol ar gyfer adeiladwaith, dyluniad a chynllun yr annedd
Argymhellir y dylai’r system wresogi mewn eiddo allu cynhesu ystafelloedd i isafswm o 18°C (neu 21°C ar gyfer y brif ystafell fyw) pan fo’r tymheredd y tu allan yn -1°C.
Dylai eich landlord hefyd ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni cyfredol ar gais. Mae’r Dystysgrif yn nodi pa mor effeithlon yw eich eiddo o ran ynni – caiff eiddo ei sgorio rhwng ‘A’ (mwyaf effeithlon) a ‘G’ (lleiaf effeithlon). Mae rheoliadau ar waith o ran y lleiafswm safonau a ganiateir mewn eiddo.