Cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelwch nwy
Dylai’ch landlord sicrhau bod y cyflenwad nwy a’r offer nwy a ddarperir yn eich eiddo:
- mewn cyflwr diogel
- wedi’u gosod neu’u trwsio gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig
Gwiriadau diogelwch nwy
Eich landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr offer nwy a ddarperir yn yr eiddo yn cael eu gwirio a’u gwasanaethau o leiaf unwaith y flwyddyn. Enghreifftiau o’r offer nwy mwyaf cyffredin yw boeleri nwy, popty / hob, tân neu wresogydd wal.
Mae’n rhaid i’r gwiriadau hyn gael eu gwneud gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig a dylech gael copi o’r dystysgrif / cofnod diogelwch nwy (sy’n rhoi manylion am y gwiriad diogelwch). Dylai eich landlord ddarparu’r cofnod o fewn 28 diwrnod o’r gwiriad diogelwch.
Mae’r wefan yn esbonio’r wybodaeth sydd ar y cofnod diogelwch nwy
Os ydych chi’n berchen ar unrhyw offer nwy yn yr eiddo, eich cyfrifoldeb chi yw gofyn i beiriannydd nwy cofrestredig ddod i wirio’r rhain bob blwyddyn hefyd.