Mae gofyn i landlordiaid preifat sicrhau bod eiddo yn ddiogel ac yn addas i fyw ynddo cyn i chi symud i mewn, a chadw’r eiddo mewn cyflwr rhesymol drwy gydol eich tenantiaeth.
Cyfrifoldebau atgyweirio
Bydd eich landlord yn gyfrifol am y rhan fwyaf o atgyweiriadau mawr, a bydd fel arfer yn gyfrifol am atgyweiriadau i:
- strwythur yr eiddo
- ffitiadau glanweithiol yn yr eiddo a gosodiadau parhaol
- systemau gwresogi a dŵr poeth
- difrod sy’n deillio o unrhyw ymgais i atgyweirio
- peryglon eraill a nodir, megis larymau tân neu ganllawiau sydd wedi torri ac ati.
Fel tenant, byddwch fel arfer ond yn gyfrifol am fân waith cynnal a chadw. Mae dyletswydd arnoch i gymryd gofal rhesymol o’r eiddo ac i atgyweirio unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi gennych chi (neu eich teulu a'ch ffrindiau).
Nid oes rhaid i’r landlord atgyweirio unrhyw beth sy’n perthyn i chi, oni bai iddo gael ei ddifrodi oherwydd nad oedd wedi cyflawni’i rwymedigaethau atgyweirio.