Mae Amlosgfa Pentrebychan ger Wrecsam yn cynnal tua 1700 o wasanaethau bob blwyddyn.
Mae tir y safle yn ymestyn am 40 erw ac maent ar agor i ymwelwyr 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae pedair gardd goffa yn cynnig ardal heddychlon i deuluoedd sy’n dewis gwasgaru llwch eu hanwyliaid yn yr amlosgfa.
Mae nifer o ddewisiadau coffáu ar gael i’r rhai sy’n dymuno bod â chanolbwynt er mwyn coffáu eu hanwyliaid hefyd.
Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal Gwasanaeth Coffa i goffáu ffrindiau a theulu sydd wedi’u hamlosgi ym Mhentrebychan. Cynhelir y gwasanaeth hwn ym mis Gorffennaf fel arfer.
Oriau agor
Mae oriau agor safle’r amlosgfa yn amrywio gan ddibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.
1 Ebrill i 31 Hydref
- Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau’r banc): 9am - 6pm
- Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau’r banc: 10am - 6pm
1 Tachwedd i 31 Mawrth
- Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau’r banc): 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau’r banc: 10am - 4pm
Amseroedd agor y swyddfa
- Dydd Llun i ddydd Iau: 9am – 12.30pm a 1.30pm – 4.30pm
- Dydd Gwener: 9am – 12.30pm a 1.30pm – 4pm
Mae’r swyddfa ar gau ar wyliau’r banc.
Cyfeiriad a chyfarwyddiadau
Amlosgfa Wrecsam
Pentrebychan
Wrecsam
LL14 4EP
Ar y ffordd
O’r A483, cymerwch y gyffordd am Johnstown, Rhosllanerchrugog a Rhostyllen.
Ar y gylchfan, cymerwch y troad am Johnstown. Cymerwch yr ail droad ar y dde ar Lôn yr Efail, lle gwelir arwydd am yr amlosgfa. O Lôn yr Efail, cymerwch y troad cyntaf ar y dde ar Ffordd Pentre Bychan. Bydd y amlosgfa ar y chwith.
Ar fws
Ewch ar wasanaeth bws rhif 4 neu 4B o Orsaf Fysiau Wrecsam. Mae’r ddau lwybr yn mynd heibio’r amlosgfa (gwiriwch yr amserlen fysiau i weld amseroedd).
Lleoliad
Gerddi
Mae dewis o bedair gardd ar gael i rai sy’n dymuno gwasgaru llwch eu hanwyliaid ar safle’r amlosgfa:
- Yr Ardd Furiog – gardd ffurfiol o fewn waliau’r neuadd o’r 17eg ganrif.
- Rhodfa’r Wisteria – wedi’i thirlunio mewn dyluniad modern, gyda gwelyau gerddi cerrig siâl yn ardaloedd glaswelltog y lawnt.
- Pwll y Lilïau – wedi’i leoli yn y coetiroedd ac wedi’i amgylchynu gan goed urddasol ac aeddfed a lawntiau lle caiff y llwch ei wasgaru. Mae adar y dŵr a bywyd gwyllt arall ger Pwll y Lili i’w gweld yn y coetir cyfagos.
- Dôl y Cennin Pedr – anffurfiol o ran natur, gyda chennin pedr, clychau’r gog, eirlys a blodau gwyllt eraill yn tyfu’n helaeth.
Caiff llwch eu gwasgaru ar ‘blotiau’ wedi’u rhifo ac mae modd eu canfod yn rhwydd.
Sylwch na chaniateir cŵn yn y capel na’r gerddi coffa (ac eithrio cŵn cymorth).