Mae adeiladau’n rhestredig pan maent yn cael eu hystyried o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Mae hyn yn golygu nid yn unig bod eich adeilad rhestredig yn bwysig i chi, ond mae’n bwysig i’ch cymuned leol hefyd ac mae’n cyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Unwaith y bydd adeilad wedi’i restru, caiff ei warchod dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
Mae newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu rheoli drwy ganiatâd adeilad rhestredig, sy’n rhan o’r system gynllunio. Diben caniatâd adeilad rhestredig yw diogelu’r adeilad, ei leoliad a’i nodweddion o waith a allai ddifrodi ei ddiddordeb arbennig.
Caniatâd Adeilad Rhestredig
Unwaith mae adeilad yn rhestredig mae’n cael ei ddiogelu gan ddeddfwriaeth genedlaethol ac mae’n bosibl y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwneud unrhyw waith ar yr adeilad. Mae hwn yn fath o reolaeth sydd yn ogystal ag unrhyw reoliadau cynllunio fyddai fel arfer yn berthnasol. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio hefyd ar gyfer rhai mathau o waith ar adeiladau rhestredig ble na fyddai ei angen fel arfer.
Mae’r rheolaethau yn golygu bod unrhyw newid i adeilad rhestredig, a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad â diddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig, angen caniatâd adeilad rhestredig Gall newid fod yn ddymunol neu’n angenrheidiol, ond mae angen ei reoli’n dda.
Mae’n drosedd gwneud gwaith heb awdurdod ar adeilad rhestredig sy’n gallu cynnwys dirwy, dedfryd neu'r ddau. Mae hefyd yn drosedd peidio cydymffurfio ag unrhyw amodau caniatâd adeilad rhestredig hefyd.
Sut i ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig
Gallwch ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig drwy lenwi ffurflen gais Llywodraeth Cymru a’i e-bostio i planning@wrexham.gov.uk Neu gallwch ymgeisio yn defnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.
Amserlen
Mae'n bosibl y penderfynir ar ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar adeilad rhestredig gradd II o fewn 8 wythnos. Gall ceisiadau ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar adeilad rhestredig gradd II* neu I gymryd hyd at 12 wythnos i wneud penderfyniad o ganlyniad i’r broses ymgynghori.