Canllaw cyffredinol, yn ogystal â gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn benodol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau.
Wrth i blant dyfu’n oedolion, mae nifer o ddewisiadau cludiant ar gael iddynt.
Dolenni allanol
Caiff rhywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael ei darparu gennym ni (Cyngor Wrecsam), a chaiff rhywfaint ei darparu gan sefydliadau eraill. Caiff dolenni i wefannau sefydliadau eraill eu labelu fel ‘dolen gyswllt allanol’.
Cludiant cymorthdaledig i fyfyrwyr cymwys sy’n byw o leiaf tair milltir o’r coleg yn ogystal â gwasanaeth brecwast a chinio am ddim i bob myfyriwr.
Os ydych chi’n anabl, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu teithio am ddim ar fysiau os ydych chi’n gymwys i gael cerdyn teithio rhatach, ac os oes angen help arnoch wrth deithio ar fws, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael cerdyn cydymaith.
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am FyNgherdynTeithio. Mae hyn yn golygu y gallech arbed tua thraean o gost teithio ar fws.
1/3 oddi ar docynnau trên i oedolion i rai dros 15 oed a chydymaith sy’n oedolyn – os ydych chi’n 15 oed neu iau, mae’r cerdyn rheilffordd yn rhoi 1/3 oddi ar deithiau trên i gydymaith sy’n oedolyn.
Bwriedir i’r cynllun hwn helpu pobl, yn arbennig y rhai sy’n awtistig, i ymdopi’n well gyda chludiant cyhoeddus.
Os ydych chi’n cael lwfans symudedd, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu ei gyfnewid am gar newydd sbon, Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, sgwter neu gadair olwyn modur
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, gallech gael arian i helpu â chost gwersi gyrru.
Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl anabl i deithio’n annibynnol, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr, trwy ganiatáu i chi barcio’n nes at le rydych chi am fynd.
I logi cyfarpar mae’n rhaid i chi fod yn aelod o Shopmobility.
Cyngor cysylltiedig
Gwybodaeth am y rheolau mae angen i chi eu dilyn os ydych chi am ddysgu gyrru