Mae’r cyfnod derbyn Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y grant hwn wedi dod i ben. Mae’n bosibl y caiff y grant ei ailagor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb pe bai unrhyw gyllid ar gael i’w ailddyrannu.

Gallwch ddarllen trwy’r canllawiau grant i baratoi rhag ofn i’r grant ailagor. Er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, bydd angen i’r ymgeisydd arweiniol gofrestru ar gyfer FyNghyfrif (gallwch wneud hyn nawr) er mwyn rheoli cais y fenter.

Cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb isod, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl ganllawiau ar gyfer y grant.

Yn gyntaf, bydd angen i chi (fel yr ymgeisydd arweiniol) greu cyfrif ar FyNghyfrif i’w ddefnyddio ar gyfer y fenter.   Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif gallwch gwblhau’r ffurflen ar-lein.

Crynodeb o’r wybodaeth y gofynnir i chi ei ddarparu

Pob ymgeisydd

Manylion y fenter / fenter arfaethedig a’r ymgeisydd arweiniol

  • Enw llawn a manylion cyswllt yr ymgeisydd arweiniol 
  • Enw / enw arfaethedig y fenter 
  • P’un a yw’r fenter heb ddechrau eto, yn fenter sydd eisoes yn bod / yn gweithredu ar hyn o bryd 
  • Prif weithgarwch y fenter
  • Strwythur / strwythur arfaethedig y fenter (er enghraifft, masnachwr unigol, cwmni cyfyngedig, cwmni buddiannau cymunedol) 
  • Manylion cyswllt ar gyfer cyfarwyddwr neu bartner y cwmni (os yw’n berthnasol) a chadarnhad o’u cydsyniad i wneud cais am y grant 
  • Arwydd o p’un a yw’r fenter yn rhedeg / yn mynd i fod yn rhedeg am fwy na 30 awr yr wythnos 
  • Y cyfeiriad lle mae / lle bydd y fenter yn cael ei rhedeg ohono o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac a fydd y prosiect yn cael ei gynnal o’r cyfeiriad hwn
  • Cadarnhad a yw’r fenter yn gweithredu neu a fydd yn gweithredu fel menter gymdeithasol neu elusen, ac os felly, cadarnhad bod y fenter yn cynhyrchu refeniw o weithgarwch busnes.

Manylion y prosiect

  • Disgrifiad clir o’r prosiect arfaethedig (hyd at 100 gair) 
  • Eglurhad o beth fydd y prosiect yn ei gyflawni a sut fydd y fenter yn elwa yn y tymor byr a’r hirdymor (hyd at 100 gair) 
  • Eitemau a/ neu wasanaethau y bydd y grant yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer  
  • Amcangyfrif o’r amser, mewn misoedd, y bydd y prosiect yn ei gymryd i’w gyflawni (mae’n rhaid cwblhau’r holl brosiectau a chanlyniadau erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf). 
  • Nifer y swyddi llawn amser / rhan amser (os oes rhai) i’w creu a / neu eu diogelu o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect arfaethedig 
  • Arwydd a fydd y prosiect yn helpu’r fenter i: 
    • Gyflwyno cynnyrch newydd  
    • Mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd 
    • Gwella cynhyrchiant 
    • Lleihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwella o safbwynt amgylcheddol neu helpu tuag at gyflawni sero net
  • Amcangyfrif o’r effaith tebygol ar drosiant blynyddol  y fenter, ar gyfer y flwyddyn ar ôl cwblhau’r prosiect (cynnydd mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect fel canran) 
  • Amcangyfrif o gyfanswm cost y prosiect yn cynnwys TAW 
  • Cyfanswm y cymorth grant y gwneir cais amdano 
  • Cadarnhad bod y fenter yn debygol o fod â’r / yn gallu sicrhau’r modd (un ai drwy ei gronfeydd ei hun neu gronfeydd eraill, fel benthyciad) i ariannu 100% o’r costau prosiect uchod, ac y bydd yn gallu darparu tystiolaeth fod cyllid ar gael pe byddai’r datganiad o ddiddordeb yn cael ei gymeradwyo.
  • Cadarnhad o p’un a fydd y fenter yn mynd dros drothwy’r Cymorth Ariannol Lleiaf (at lefel grŵp) o £315,000 (yn seiliedig ar gronnir dros y flwyddyn ariannol hon a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol) 
Os bydd y prosiect yn cynnwys gwaith adeiladu 
  • Cadarnhad o rydd-ddeiliad yr eiddo, manylion cyswllt y rhydd-ddeiliad lle nad dyma’r fenter / ymgeisydd arweiniol ynghyd â chadarnhad o gydsyniad y rhydd-ddeiliad i ymgymryd â’r gwaith i’r eiddo  
  • Lle mae’r eiddo wedi’i feddiannu ar brydles, manylion o dymor y brydles sydd heb ddod i ben mewn blynyddoedd  
  • Cadarnhad a oes unrhyw fath o ganiatâd cynllunio (yn cynnwys newid defnydd) ar waith, a allai fod ei angen

Mentrau sy’n bod eisoes yn unig 

  • Trosiant blynyddol mwyaf diweddar y fenter (os yw’r fenter wedi bod yn masnachu am lai na 1 blwyddyn yna bydd angen darparu manylion y trosiant hyd yma)
  • Nifer presennol y gweithwyr (nad ydynt ar gontractau dim oriau) a’r oriau maent yn eu gweithio bob wythnos
  • Cadarnhad o p’un a yw’r fenter wedi cofrestru at ddibenion TAW ai peidio 
  • Manylion cyswllt ar gyfer y fenter 

Mentrau nad ydynt wedi dechrau eto yn unig

  • Amcangyfrif o drosiant y fenter ar gyfer ei flwyddyn lawn gyntaf o fasnachu (yn seiliedig ar beidio â derbyn cymorth grant) 
  • Os cymerir busnes presennol drosodd; nifer bresennol y staff, llawn amser a / neu ran amser (os o gwbl) y mae’r fenter yn eu cyflogi (ac eithrio staff ar gontractau dim oriau), cyfanswm nifer yr oriau contract y mae gweithwyr yn eu gweithio bob wythnos a’r hyn y mae’r fenter yn ei ddiffinio, o ran oriau’r wythnos, fel llawn amser (35, 37 neu 40 awr, er enghraifft).