Mae'r cynllun llety â chefnogaeth yn cynnig cyfle i bobl ifanc 16 - 21 oed fyw mewn amgylchedd cefnogol, ond gyda mwy o annibyniaeth.
Fel gwesteiwr, rydych chi'n darparu ystafell wely i unigolyn ifanc yn eich cartref a chefnogaeth i'w helpu i baratoi ar gyfer byw'n annibynnol.
Fydda i’n gyfrifol am yr unigolyn ifanc?
Ni fydd gofyn i chi gymryd cyfrifoldeb rhiant am yr unigolyn ifanc - bydd yn lletywr yn eich cartref. Nod gwesteiwr yw darparu llety sefydlog i'r rhai nad oes ganddynt gartref sefydlog.
Mewn llety â chefnogaeth, gall pobl ifanc ddysgu i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain a darganfod sut mae eu gweithredoedd yn effeithio nid yn unig ar eu hunain, ond ar eraill y maen nhw'n byw gyda nhw.
Helpu i baratoi rhywun ar gyfer annibyniaeth
Gofynnwn i chi ddarparu arweiniad a chyngor i gynorthwyo’r unigolyn ifanc i fod yn oedolyn annibynnol a hyderus.
Gallai hyn gynnwys eu hannog i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol, ynghyd â'u helpu i ennill sgiliau ymarferol fel:
- Derbyn mynediad i ysgol, coleg a phrentisiaethau neu waith
- defnyddio cyfrif banc
- cyllidebu ar gyfer y cartref
- prynu a pharatoi bwyd
- glanhau
- garddio
- cwblhau tasgau DIY syml
- defnyddio cludiant cyhoeddus
- trefnu amser hamdden
- darparu cefnogaeth emosiynol / bod yn glust i wrando
- cefnogi i wneud apwyntiadau dros y ffôn
Mewn geiriau eraill, popeth sy’n rhan o fywyd bob dydd.
Pwy yw’r bobl ifanc?
Y bobl ifanc yw'r rhai sy'n gadael gofal neu rai na allant fyw gartref mwyach, ac nad ydynt yn barod i ymdopi â byw ar eu pennau eu hunain eto.
Mae gan bob un o'r bobl ifanc weithiwr cymdeithasol a / neu gynghorydd personol o'n Tîm Gadael Gofal, sy'n edrych ar eu cefndir ac yn helpu i ddod o hyd i'r lleoliad cywir ar eu cyfer.
Rydym ni’n cymryd gofal i baru unigolyn ifanc gyda chi. Byddwn yn cymryd amser i ddod i'ch adnabod chi a'r math o lety y gallwch chi ei ddarparu, gan ystyried eich anghenion chi ac anghenion yr unigolyn ifanc.
Chi fydd yn cael y penderfyniad terfynol ar bwy fydd yn rhannu eich cartref.
A alla i gynnig llety â chefnogaeth?
Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys y rhai sydd:
- wedi priodi, gyda phartner neu’n sengl
- yn gweithio neu heb waith
- gyda phlant neu heb blant
- yn berchen ar eu cartref neu’n denantiaid
- o unrhyw gefndir ethnig
Yr unig gyfyngiadau yw:
- mae’n rhaid i chi gael ystafell wely sbâr yn eich cartref
- mae’n rhaid i’ch iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol fod yn dda
- mae’n rhaid nad oes unrhyw beth yn eich cefndir a fyddai’n awgrymu y gallai unigolyn yn eich gofal fod mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth
A yw fy nghartref yn addas?
Gall eich cartref fod yn fawr neu’n fach, yn hen neu’n newydd, yn cael ei rentu neu yn eiddo i chi.
Mae gennym ni ddisgwyliadau o ran pa fath o gartref y dylai pobl ifanc ei gael. Er enghraifft, rydym ni’n disgwyl ystafell wely lân a diogel i’r unigolyn ifanc ei defnyddio.
Efallai y bydd angen i chi gadarnhau y gallwch ddarparu llety i unigolyn arall yn y sefyllfaoedd canlynol:
Cwestiynau am gyllid
Y broses asesu
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn cael ei ddyrannu i chi o'r pwynt asesu a fydd yn eich cefnogi chi ar hyd y daith.
Byddwn yn ymweld â chi yn aml i gwblhau’r asesiad ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Byddwch chi'n gallu dod i adnabod y gweithiwr cymdeithasol a meithrin perthynas waith dda.
Unwaith y byddwch wedi eich cymeradwyo
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn westeiwr llety â chefnogaeth, gallwch lenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod unrhyw gwestiynau cychwynnol a allai fod gennych cyn dechrau'r broses asesu.
Ffurflen ymholi llety â chefnogaeth