Pam ein bod angen eich gwybodaeth?

Fe fydd y Cyngor, fel rheolwr data, yn defnyddio’r data personol a gaiff ei gynnwys o fewn y Datganiad o Ddiddordeb a’r cais llawn i:

  • gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy a dyblygu
  • gweinyddu ac asesu’r Datganiadau o Ddiddordeb a’r ceisiadau llawn ar gyfer grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 
  • monitro a gwerthuso prosiectau

Y cyfiawnhad ar gyfer defnyddio’ch gwybodaeth

Bydd y Cyngor a’r panel grant yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a bydd hyn yn penderfynu a fydd eich datganiad o ddiddordeb / cais am grant llawn yn llwyddiannus.  

Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth tra bydd y prosiect yn cael ei weithredu ac ar ôl cwblhau’r prosiect fel bo’n berthnasol, at ddibenion gweinyddu, monitro a gwerthuso eich prosiect. 

Mae gan y Cyngor hefyd ddyletswydd i brosesu eich gwybodaeth o dan y sail gyfreithiol ganlynol:

  • Atal / canfod trosedd, gan gynnwys sylwadau ffug yn unol â’r Ddeddf Twyll. 

Bydd y Cyngor yn dibynnu ar fuddiant dilys, Erthygl 6 (1) Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU i brosesu’r wybodaeth bersonol mewn perthynas â phrosesu gwybodaeth bersonol o fewn eich datganiad o ddiddordeb / cais llawn ar gyfer grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Rhannu eich gwybodaeth 

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r wybodaeth rydych yn ei darparu gyda’r panel grant a’r sefydliadau canlynol:

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru
  • Sefydliadau’r trydydd sector
  • Unrhyw sefydliadau perthnasol eraill

Bydd unrhyw wybodaeth a rennir gyda’r unigolion priodol ar sail angen gwybod yn unig a’r isafswm o wybodaeth ar gyfer y diben fydd yn cael ei rannu.

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth a’ch hawliau

Bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu yn cael ei chadw am 10 mlynedd o daliad terfynol y grant.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data: DPO@wrexham.gov.uk