Os ydych yn tanysgrifio – neu os ydych eisoes wedi tanysgrifio – bydd eich tanysgrifiad yn parhau tan Chwefror 2025. Dysgwch fwy ar Newyddion Cyngor Wrecsam.
Pa mor aml mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu?
Rydym yn casglu gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 1 Mawrth a 30 Tachwedd, ar yr un diwrnod yr ydym yn casglu eich gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd. Rhaid rhoi eich bin allan i'w gasglu erbyn 7.30 am.
Caiff gwastraff gardd ei gasglu bob mis yn ystod Rhagfyr, Ionawr a Chwefror, ond dychwelir i gasgliadau bob pythefnos unwaith eto ym mis Mawrth. Mae hwn yn amodol ar adolygiad.
Efallai bydd achlysuron lle nad yw’n bosibl i ni gasglu bin gwastraff gardd, ar adegau:
- lle mae amodau tywydd difrifol
- lle mae cerbyd yn torri i lawr
- lle mae gweithredu diwydiannol
Os na allwch gasglu eich gwastraff gardd fel y drefnwyd, byddwn yn dychwelyd i’w gasglu cyn gynted â phosib.
A allaf roi gwastraff gardd yn fy min du?
Gallwn dderbyn toriadau glaswellt, tociadau gwrychoedd a llwyni, brigau a changhennau bach, chwyn, planhigion, blodau marw, dail a rhisgl.
Fedrwn ni ddim cymryd unrhyw bridd, coed, brics, cerrig, lludw, clymog Japan, bagiau plastig, gwelyau anifeiliaid anwes, baw anifeiliaid ac anifeiliaid anwes, gwastraff bwyd eu unrhyw wastraff cyffredinol. Gellir casglu gwastraff bwyd yn wythnosol drwy wasanaeth casglu ymyl palmant.
Gallwch hefyd fynd â gwastraff ychwanegol i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim).
Faint mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ei gostio a sut medra i gofrestru?
Cost y gwasanaeth
Er bod costau cynyddol i ddarparu’r gwasanaeth, rydym wedi gallu rhewi’r ffi ar gyfer y tair blynedd diwethaf. Ond oherwydd pwysau ar gyllidebau’r cyngor, rydym wedi gorfod cynyddu’r gost o gasgliadau gwastraff gardd wythnosol ar gyfer 2023/24. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn y pris ar gael ar Newyddion Cyngor Wrecsam.
Y gost yw £35 y bin ar gyfer 2023/24 ac mae’r gwasanaeth yn para o Medi 4, 2023 tan Chwefror 28, 2025. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn
Ni fedrwn dderbyn rhandaliadau, rhaid gwneud pob taliad yn llawn.
Sut i gofrestru
Y ffordd hawsaf a chyflymaf o wneud hyn yw ar-lein. Bydd angen i chi greu cyfrif gyda Fy Nghyfrif yn gyntaf, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Fel arall, gallwch alw Strydoedd o Fri ar 01978 298989 er mwyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni gofrestru'r ceisiadau a phostio'ch llythyr cadarnhau, Telerau ac Amodau a'ch label gludiog i chi. Bydd eich sticer casglu yn cael ei anfon yn y post i'r cyfeiriad a ddarperir ar y ffurflen hon, bydd manylion pellach y gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn y llythyr eglurhaol a'r pecyn gwybodaeth.
Ei dalu/cofrestrwch ar-lein
Bydd angen i chi greu cyfrif gyda Fy Nghyfrif yn gyntaf, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i archebu a thalu am fin gwastraff gardd newydd.
Ynghylch y gwasanaeth
Sut ydych chi'n gwybod pwy sydd wedi talu am gasglu gwastraff gardd a phwy sydd ddim?
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth byddwch yn derbyn label(i) gludiog i lynu ar eich gaead(iau) bin gwastraff gardd. Bydd y label yn nodi'r cyfeiriad y mae'r bin yn perthyn iddo a bydd yn helpu'r criw casglu i nodi'n gyflym bod y gwasanaeth wedi cael ei dalu amdano.
A allaf rannu bin gwastraff gardd gyda fy nghymydog?
Gallwch, gallwch gytuno â hyn â'ch cymydog. Ar ddiwrnod casglu, rhaid i'r bin gwastraff gardd fod y tu allan i eiddo deiliad y tŷ sydd wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth.
Beth alla i ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?
Gallwch fynd â'ch gwastraff gardd i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (yn rhad ac am ddim).
Neu, fe allech ei gompostio’r gwastraff gardd gartref.
Beth sy’n digwydd os ydw i'n talu rhywun ar hyn o bryd i dorri fy nglaswellt neu i drin fy ngardd?
Os rhoddir deunyddiau gwastraff yr ardd yn eich bin gwastraff gardd, yna byddai angen i chi danysgrifio i'r gwasanaeth hwn o hyd. Fel arall, gallwch ofyn i'ch garddwr neu'r unigolyn sy'n gwneud y gwaith i chi, fynd â gwastraff yr ardd i ffwrdd a chael gwared arno’n gyfrifol (gallant godi tâl arnoch i wneud hynny).
Os ydych chi'n talu'ch garddwr, bydd y gwastraff yn cael ei ystyried yn wastraff masnach pan fyddant yn ei symud o'ch eiddo. Ni ellir mynd â gwastraff masnach i unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Cofiwch, os ydych chi'n ddeiliad tŷ mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi wirio bod unrhyw un sy'n tynnu gwastraff o'ch eiddo wedi'i awdurdodi i wneud hynny o dan “Dyletswydd Gofal”. Gallai deiliaid tai nad ydynt yn cymryd mesurau rhesymol i wirio bod gweithredwyr yn gludwyr gwastraff cyfreithlon fod yn atebol i ddirwy.
Cefndir
Pam fod tâl yn cael ei gyflwyno am gasgliadau gwastraff gardd?
Gan ystyried heriau ariannol parhaus rydym yn eu hwynebu, gwnaethpwyd penderfyniad i godi ffi am y gwasanaeth hwn (yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd eisoes gan nifer o gynghorau ledled Cymru a Lloegr).
Trwy godi tâl am gasgliadau gwastraff gardd mae hyn hefyd yn dilyn argymhellion Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau gwastraff yng Nghymru.
Beth yw'r gyfraith ynghylch codi tâl am gasglu gwastraff gardd?
Mae Rheoliadau Gwastraff Rheoledig (Cymru a Lloegr) 2012 yn nodi'r pwerau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol godi tâl am gasglu a chael gwared ar wastraff penodol. Mae paragraff 4 o Atodlen 1 o'r rheoliadau hyn yn nodi y caiff cyngor godi am gasglu (ond nid cael gwared ar) gwastraff gardd o’r cartref.
Er bod dyletswydd arnom i gael gwared ar wastraff cartref yn rhad ac am ddim, nid oes dyletswydd statudol arnom i ddarparu casgliadau gwastraff gardd am ddim.
Onid wyf eisoes yn talu am y gwasanaeth hwn trwy fy Nhreth y Cyngor?
Na - ni thelir am gasgliadau gwastraff gardd trwy Dreth y Cyngor, ond trwy'r cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru (cyllid sydd wedi'i leihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf).
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth
Ble ydw i'n glynu'r sticer adnabod i ddangos fy mod i wedi talu?
Atodwch y sticer(i) adnabod i gaead eich bin(iau) gwastraff gardd. Mae hyn yn caniatáu i'r criw casglu wneud gwiriad cyflym a sicrhau nad yw'r offer codi yn niweidio'r sticeri.
Ni fydd y criwiau casglu yn casglu unrhyw finiau gwastraff gardd heb sticer wedi'i arddangos.
Beth os caiff fy min gwastraff gardd ei ddwyn, neu os yw fy sticer wedi'i ddifrodi / ar goll?
Bin ar goll
Gwiriwch â'ch cymdogion yn gyntaf i sicrhau nad ydyn nhw wedi mynd â'r bin gwastraff gardd trwy gamgymeriad.
Rhoi gwybod am fin sydd ar goll neu wedi’i ddwyn / gwneud cais i gael bin newydd
Gallwch roi gwybod am fin sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i ddwyn trwy ddefnyddio ein ffurflen 'bin neu focsys newydd'.
Cyfrifoldeb deiliad y tŷ yw sicrhau bod ei fin(iau) gwastraff gardd yn cael eu storio'n ddiogel. Os bydd bin ar goll, codir tâl am gael un arall yn ei le.
Rydym yn eich annog i farcio'ch bin gwastraff gardd gyda rhif neu gyfeiriad eich tŷ er mwyn sicrhau bod modd adnabod eich bin yn glir.
Gwastraff gardd - newid cyfeiriad neu sticeri newydd
Mae’r ffurflen hon yn eich galluogi chi i’n hysbysu ni eich bod wedi newid cyfeiriad ac yr hoffech chi symud y casgliad gwastraff gardd yr ydych wedi talu amdano o un cyfeiriad i un arall a hefyd mae’n eich galluogi chi i archebu sticeri casgliad gwastraff gardd newydd.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn symud tŷ?
Os byddwch yn symud tŷ yn ystod cyfnod eich tanysgrifiad gallwch drosglwyddo'r tanysgrifiad hwn i'ch cyfeiriad newydd os yw hwn yn Wrecsam. Bydd angen i chi gysylltu â ni i ddweud wrthym eich bod wedi symud tŷ, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.
Gwastraff gardd - newid cyfeiriad neu sticeri newydd
Mae’r ffurflen hon yn eich galluogi chi i’n hysbysu ni eich bod wedi newid cyfeiriad ac yr hoffech chi symud y casgliad gwastraff gardd yr ydych wedi talu amdano o un cyfeiriad i un arall a hefyd mae’n eich galluogi chi i archebu sticeri casgliad gwastraff gardd newydd.
Ni ellir darparu ad-daliadau os byddwch chi'n symud allan o Wrecsam neu os na chynigir y gwasanaeth i'ch eiddo newydd. Ni fydd ad-daliadau ar gael chwaith os byddwch yn symud i eiddo newydd ac angen llai o finiau nag yr ydych wedi tanysgrifio ar eu cyfer yn eich cyfeiriad blaenorol.
A oes angen i mi adnewyddu fy nhaliad bob blwyddyn?
Oes - bydd angen i chi adnewyddu eich taliad bob blwyddyn a byddwch yn gallu gwneud hyn bob blwyddyn yn y cyfnod cyn Mawrth.
Eto, y ffordd hawsaf a chyflymaf o dalu am y tanysgrifiad yw yma ar-lein.
Gwybodaeth brisio / talu pellach
A allaf dalu am gasgliadau am ran o'r flwyddyn yn unig?
Na - os ydych chi'n ymuno rhan o'r ffordd trwy'r flwyddyn neu ddim ond angen casgliad ychydig o weithiau'r flwyddyn, bydd yn dal rhaid i chi dalu'r tâl blynyddol fesul bin.
A oes unrhyw gonsesiynau?
Ar hyn o bryd nid oes consesiynau.
A allaf brynu mwy nag un bin gwastraff gardd?
Medrwch, gellir prynu mwy nag un bin gwastraff gardd i bob cartref.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein I archebu a thalu am fin gwastraff gardd newydd (a hefyd i gofrestru ar gyfer, a thalu am y gwasanaeth casglu).
Ar hyn o bryd mae cost bin gwastraff gardd ychwanegol yn £25 y bin, ond bydd angen i chi gofrestru unrhyw finiau gwastraff gardd ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth casglu (am gost flynyddol y gwasanaeth).
Ad-daliadau
A allaf gael ad-daliad os byddaf yn penderfynu canslo fy nhanysgrifiad?
Mae gennych hawl i ganslo'ch tanysgrifiad a chael ad-daliad llawn cyn pen 14 diwrnod o ddiwrnod y pryniant. Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar ôl i’r ‘cyfnod oeri’ 14 diwrnod ddod i ben.
A allaf gael ad-daliad am fy min gwastraff gardd?
Na, mae’r gost am fin gwastraff gardd am ei ddanfon yn unig.
Ydw i'n cael ad-daliad os nad yw fy min gwastraff gardd yn cael ei wagio?
Na, mae methu casgliadau yn brin. Os nad yw'ch bin wedi'i wagio, gallai fod oherwydd ei fod yn cynnwys yr eitemau anghywir neu ei fod yn rhy drwm. Os nad oedd eich bin allan erbyn 7.30am ar y diwrnod casglu efallai y byddwch hefyd wedi colli'r amser casglu.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo casgliadau oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft tywydd garw). Os mai ein bai ni yw methu casgliad, yna byddwn bob amser yn gwneud ymdrech i gasglu'ch bin cyn gynted â phosibl.