Date
-

Parc Gwledig Tŷ Mawr

Dathlwch droad y tymhorau a chroesawu’r hydref gyda staff yr amgylchedd yng Ngŵyl y Cynhaeaf wrth i ni ryfeddu at berllannau a’u pwysigrwydd ar gyfer bioamrywiaeth a bwyd. 

Mae digwyddiad yr Hydref dan y Goeden Afalau yn llawn dop o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddyn nhw:

  • Mwynhewch ein llwybr bwyd gwyllt sy’n mynd â chi o gwmpas y parc, gyda gwobrau i’w hennill ar y diwedd
  • Tritiwch eich hun i sudd afal ffres gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo
  • Darganfyddwch sut mae cychod gwenyn yn gweithio gyda Smithy Farm a’u cychod gwenyn cludadwy
  • Rhowch gynnig ar goginio dros dân a blasu crymbl ffrwythau tymhorol
Event categories