Rydym yn falch o gael cydweithio gyda Hosbis Tŷ’r Eos a Dôl yr Eryrod i gynnal digwyddiadau arbennig i nodi dechrau tymor y Nadolig yng nghanol y ddinas!
Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd ar Sgwâr y Frenhines
Gan ddechrau am 12pm, ymunwch â ni am ddiwrnod llawn o hwyl yr ŵyl, gyda stondinau bwyd blasus, adloniant a gweithgareddau gwyliau ar gyfer pob oedran!
Gorymdaith Llusern Hosbis Tŷ'r Eos a Gweithdai Addurno Llusern
Cofrestrwch nawr ar gyfer yr Orymdaith Llusernau noddedig! Cofrestrwch eich plentyn am £6 yn unig (mae oedolion sy'n dod gyda chi yn mynd am ddim) a derbyniwch lantern papur a golau batri y gellir ei addasu:
Hosbis Tŷ'r Eos: Gorymdaith Llusernau Wrecsam (dolen gyswllt allanol)
Casglwch ac addurnwch eich llusern yn ein Gweithdai Gwneud Llusernau yn Chapter Court (7-9 Heol y Frenhines, LL11 1AP):
- Dydd Sadwrn 9 Tachwedd am 12:30pm – 3:30pm
- Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 12: 30pm – 3:30pm
Am 4:30pm, bydd yr Orymdaith Llusernau a Goleuadau yn dechrau – o Sgwâr y Frenhines gan orffen yn Nôl yr Eryrod.
Digwyddiad Troi’r Goleuadau Ymlaen - Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod
Cerddoriaeth fyw!
4 – 5pm
Rebecca Royal, Urban Fusion (dawns)
5 – 7pm: Digwyddiad diweddglo prif lwyfan
Yn cynnwys: Ben Ofoedu (Phats & Small) – seren y sioe, Dene Michael (Black Lace), Kevin Davy White, Passmore, Lois
Efallai y byddai’r rhain o ddiddordeb ichi hefyd: Nadolig Fictoraidd ym Marchnadoedd Adnewyddedig Wrecsam