Y Neuadd Oliver Jones
Llwynmawr
Wrecsam
LL20 7BB
Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam
Oherwidd toriadau parhaol mewn cyllid gan y llywodraeth, mae rhaid i ni ddod o hyd i £185,000 o leiaf o doriadau i’n Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol.
Os ydych yn byw, gweithio neu’n astudio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gallwch ein helpu ni a mynegi eich barn ar sut y dylid rhedeg y gwasanaethau yn y dyfodol.
Dewch draw yn bersonol i glywed am newidiadau posibl i’r gwasanaethau, rhoi adborth a rhannu eich syniadau fel aelod o’r gymuned leol.
Dweud eich dweud ar-lein
Os na allwch chi ddod i un o'n digwyddiadau sioe deithiol wyneb yn wyneb, gallwch chi roi eich barn i ni o hyd trwy lenwi'r ffurflen ymgynghori ar-lein.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 18 Tachwedd 2024 ac 19 Ionawr 2025, er mwyn caniatáu amser i’r tîm cwsmeriaid, preswylwyr a budd-ddeiliaid i ymateb.
Yn ogystal â chymryd rhan ar-lein, gallwch hefyd gasglu copïau papur o’n eich llyfrgell leol a’n canolfannau adnoddau.