Date
-
Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn?
Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod - helpu i blannu coed ar hyd llwybr troed Ffordd Llannerch!
- Cyfarfod wrth y fynedfa i’r llwybr troed y tu ôl i Ffordd Llannerch oddi ar Ffordd Afoneitha
- Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau/welis cadarn, darperir yr holl offer ac mae menig ar gael i’w defnyddio
- Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau
- Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain.
- Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk
Cyllido yn llawn – Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw (dolen gyswllt allanol)
Event categories