Lôn Plas Kynaston
Wrecsam
LL14 3AT
Dewch i gwrdd â rhieni/gwarcheidwaid eraill, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig wrth i’ch plant fwynhau chwarae â’i gilydd.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad Cymraeg – mae croeso i bawb yn y Cylch Ti a Fi.
Drwy ddod i’r Cylch Ti a Fi, bydd eich plentyn yn cael cyfle i:
- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae â theganau
- dysgu sut i ganu caneuon Cymraeg syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg a phori drwy lyfrau
- creu darnau celf a chrefft.
Croeso i unrhyw blentyn rhwng 0 a 4 oed!
Grŵp wythnosol, bob prynhawn dydd Mercher (yn ystod y tymor yn unig), 1pm – 2.15pm
Am ddim.Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Am fwy o wybodaeth: Mudiad Meithrin: Cefn Mawr (Ti a Fi) (dolen gyswllt allanol)
Gallwch ddysgu hefyd am ffyrdd y gall teuluoedd plant cyn ysgol ymwneud â’r Gymraeg ar ein tudalen we ynglŷn ag addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.