Date
-
Lleoliad

Prifysgol Wrecsam
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

Image
""

Ymunwch â'n hacademyddion am ddarlith gyhoeddus arbennig sy’n rhan o Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam yn dilyn ein digwyddiad Arwyr Gofal Iechyd ar thema 'Byd y Dyfodol'. Cewch glywed am yr hyn sydd i ddod ar gyfer addysg gofal iechyd yn ogystal â'r ymchwil arloesol y mae ein hacademyddion yn ei harwain i drawsnewid gofal iechyd. Cewch ragor o wybodaeth am ein prosiectau parhaus ar y cyd â byrddau iechyd lleol ac Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol Maelor. Dysgwch sut mae ein hymchwil a’n buddsoddiadau mewn technoleg drawsnewidiol yn arfogi ein graddedigion i weithio’n ymarferol mewn ystod eang o yrfaoedd gofal iechyd sy’n gwasanaethu’r gymuned leol.