Digwyddiadau
Dangos 370 o 434 digwyddiad.
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.
Darperir lluniaeth.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Grŵp atgofion - Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp misol sy’n canolbwyntio ar hanes lleol Gwersyllt, sy’n rhoi cyfle i gymdeithasu a hel atgofion am yr ardal.
Mae’r grŵp yn cwrdd yr ail ddydd Mercher o bob mis am 2.30pm.
Yn addas i oedolion.
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg
Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb. Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn! Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
Gwnïo a Sgwrsio - Llyfrgell Coedpoeth
Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo.
Addas i bawb sy’n awyddus i wella neu rannu eu sgiliau, neu roi cychwyn arni am y tro cyntaf.