Digwyddiadau
Dangos 350 o 434 digwyddiad.
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.
Darperir lluniaeth.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.
Clwb Lego – Llyfrgell Coedpoeth
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Siop Gyfnewid Jig-so – Llyfrgell Brynteg
Dewch draw i gyfnewid eich jig-so o blith detholiad o'r rhai a roddwyd/cyfnewid gan eraill.
Gofynnwn i chi ddod â phosau cyflawn yn unig!
Ar bob ddydd Mercher cyntaf y mis, 2.30pm - 4.30pm.
Grŵp Llyfrau - Llyfrgell Gwersyllt
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Darperir te, coffi a bisgedi.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!
Dydd Iau cyntaf a mis 2-4pm.
Cefn Yn Cofio – Llyfrgell Cefn Mawr
Ymunwch â’r grŵp i siarad/clywed am hen atgofion, boed y rheiny’n rhai lleol neu’n dod o bell i ffwrdd.
Dewch â hen luniau neu unrhyw beth hoffech rannu gyda’r grŵp.
Rhedeg mewn partneriaeth rhwng Llyfrgell Cefn Mawr ac Amgueddfa Cefn Mawr.
Darperir lluniaeth.