Digwyddiadau
Dangos 90 o 466 digwyddiad.
Grŵp crefft i oedolion - Llyfrgell Gwersyllt
Grŵp misol sy’n gweithio ar brosiect gwahanol bob tro gan ddefnyddio amrywiaeth helaeth o wahanol gyfryngau.
Mae’r grŵp yn cwrdd ddydd Mercher cyntaf bob mis rhwng 2.30pm a 4.30pm.
Yn addas i oedolion.
Clwb Lego – Llyfrgell Cefn Mawr
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Addas i blant 4 oed a hŷn
Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg
Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb. Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn! Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig!
Cefn Yn Cofio – Llyfrgell Cefn Mawr
Ymunwch â’r grŵp i siarad/clywed am hen atgofion, boed y rheiny’n rhai lleol neu’n dod o bell i ffwrdd.
Dewch â hen luniau neu unrhyw beth hoffech rannu gyda’r grŵp.
Rhedeg mewn partneriaeth rhwng Llyfrgell Cefn Mawr ac Amgueddfa Cefn Mawr.
Darperir lluniaeth.
Grŵp Llyfrau - Llyfrgell Gwersyllt
Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?
Darperir te, coffi a bisgedi.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!
Dydd Iau cyntaf a mis 2-4pm.
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell y Waun
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
Dan 5 Oed.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob dydd Iau 2.15pm - 2.45pm
Sesiwn cyfnewid sticeri a cherdyn masnachu – Llyfrgell Gwersyllt
Ydych chi dan 16 oed ac yn casglu neu'n masnachu sticeri? Os felly beth am ymuno â ni yn llyfrgell Gwersyllt bob dydd Iau 4.15-4.45pm.
Dewch ag un, ewch ag un a chwblhewch eich casgliad.
Agored i blant o bob oed. Mae'n ddrwg gennym - ni chaniateir unrhyw fasnachwyr sy'n oedolion!
Ffair Nadolig Gymunedol - Clwb Rygbi Wrecsam
Dydd Iau 5 Rhagfyr, Clwb Rygbi Wrecsam, 6yb-9yh.
Stondinwyr £10.
- Mynediad am ddim
- Parcio am ddim
- Ymweliad Gan Sion Corn
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at waith Shelter Cymry yn cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd yng Nghymru.
Galwch Heibio i Rieni – Llyfrgell Cefn Mawr
Gollwng eich plant a galwch yn y llyfrgell am baned a sgwrs.
Bob dydd Gwener (yn ystod y tymor ysgol) o 8:45am - 9:45am
Gwnïo a Sgwrsio - Llyfrgell Coedpoeth
Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo.
Addas i bawb sy’n awyddus i wella neu rannu eu sgiliau, neu roi cychwyn arni am y tro cyntaf.