Digwyddiadau
Dangos 50 o 332 digwyddiad.
Clwb Lego – Llyfrgell Brynteg
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr
Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.
Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!
Sgwrs Chwaraeon - Llyfrgell Gwersyllt
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sbort?
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Llun i drafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos dros de a bisgedi.
Croeso i bawb!
Grŵp Crefftau Oedolion – Llyfrgell Brynteg
Grŵp misol sy’n gweithio ar brosiect gwahanol bob tro gan ddefnyddio amryw gyfryngau (sesiynau â chymorth).
Os hoffech ymuno â ni rydym yn cyfarfod ar yr ail ddydd Llun o bob mis (3pm – 4pm) – byddai croeso cynnes i chi!
Am ddim.
Amser Lliwio i blant - Llyfrgell Gwersyllt
Sesiynau hwyliog i helpu’ch plentyn i fod yn greadigol a chwrdd â phlant eraill sy’n mwynhau lliwio.
Darperir yr holl ddefnyddiau angenrheidiol (pensiliau lliwio a dalenni papur).
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Amser Stori (Amser Straeon a Rhigymau Cymraeg) - Llyfrgell Coedpoeth
Sesiwn Cymraeg hwyliog, cyfeillgar a rhyngweithiol i rieni/gofalwyr a’u babanod/plant bach.
Gwau a Sgwrsio – Llyfrgell Gwersyllt
Amser Stori a Rhigymau (Saesneg) – Llyfrgell Brynteg
Rhieni/gofalwyr â babanod a phlant bach – dewch draw am sesiwn hwyliog o straeon a rhigymau!
I blant dan 5.
Am ddim. Dim angen archebu, dim ond galw heibio!
Bob Dydd Mawrth 2.15pm – 2.45pm
Grŵp Dros 60 - Llyfrgell Gwersyllt
Ffordd braf o gwrdd â phobl eraill a chymdeithasu.
Darperir lluniaeth.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mawrth, 2.15pm – 3pm
Clwb Lego – Llyfrgell y Waun
Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!
Yn addas i blant 4 – 11 oed.