Dangos 110 o 331 digwyddiad.

Cefn Yn Cofio – Llyfrgell Cefn Mawr

Ymunwch â’r grŵp i siarad/clywed am hen atgofion, boed y rheiny’n rhai lleol neu’n dod o bell i ffwrdd.

Dewch â hen luniau neu unrhyw beth hoffech rannu gyda’r grŵp.

Rhedeg mewn partneriaeth rhwng Llyfrgell Cefn Mawr ac Amgueddfa Cefn Mawr.

Darperir lluniaeth.

Date: 06 Chwefror 2025 14:00 - 15:00
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston

Clwb Cyfeillgarwch - Llyfrgell Brynteg

Un o'r ffyrdd mwyaf hwylus o gymdeithasu ffrindiau yw ymuno â grŵp neu glwb.  Pam na ddewch draw i gwrdd â phobl fel chi i gael sgwrs am y pethau sy'n bwysig i chi dros baned da hen ffasiwn!  Gallwch ddod ag unrhyw brosiect crefft gyda chi, llyfr, cwis - neu'ch hun yn unig! 

Date: 06 Chwefror 2025 14:00 - 16:00
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg

Grŵp Llyfrau - Llyfrgell Gwersyllt

Ydych chi wrth eich bodd yn darllen a siarad am lyfrau? Beth am ymuno â’r grŵp yma sy’n union yr un fath?

Darperir te, coffi a bisgedi.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!

Dydd Iau cyntaf a mis 2-4pm.

Date: 06 Chwefror 2025 14:00 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Gwnïo a Sgwrsio - Llyfrgell Coedpoeth

Grŵp wythnosol lle gallwch gael sgwrs wrth fwrw ymlaen â’ch gwaith gwnïo. 

Addas i bawb sy’n awyddus i wella neu rannu eu sgiliau, neu roi cychwyn arni am y tro cyntaf.

Date: 07 Chwefror 2025 10:00 - 11:00
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Grŵp ysgrifennu creadigol i oedolion – Llyfrgell y Waun

  • Oes gennych chi stori rydych chi am ei hadrodd?
  • Angen cymhelliant?
  • Angen adborth?
  • Angen paned o de?
     

Dewch i gwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol, rhannu geiriau o gyngor ac annog eich gilydd!

Date: 07 Chwefror 2025 10:30 - 11:30
Lleoliad
Lôn y Capel

Grŵp Ysgrifennu Creadigol - Llyfrgell Gwersyllt

  • Oes gennych chi stori rydych chi am ei hadrodd?
  • Angen cymhelliant?
  • Angen adborth?
  • Angen paned o de?

Dewch i gwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb mewn ysgrifennu creadigol, rhannu geiriau o gyngor ac annog eich gilydd!

Date: 07 Chwefror 2025 14:00 - 15:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Clwb Scrabble – Llyfrgell Coedpoeth

Dewch i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl wrth wella eich geirfa a’ch sgiliau gyda’r gêm boblogaidd hon!

Bob dydd Gwener, 2pm - 4pm.

Date: 07 Chwefror 2025 14:00 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn

Clwb Lego – Llyfrgell Gwersyllt

Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!

Addas i blant 4 oed a hŷn

Date: 07 Chwefror 2025 15:15 - 16:00
Lleoliad
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt

Clwb Lego – Llyfrgell Brynteg

Mae Lego yn dysgu sgiliau meddal amrywiol a fydd yn llywio'r ffordd y mae plant yn gweithio ac yn rhyngweithio ag eraill gan gynnwys meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys gwrthdaro a sgiliau datrys problemau ynghyd â llond trol o hwyl!

Date: 08 Chwefror 2025 11:00 - 12:00
Lleoliad
Llyfrgell Brynteg

Grwpiau Gwau, Crosio a Chrefft - Llyfrgell Cefn Mawr

Mae'r grŵp hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n mwynhau unrhyw beth crefftus - gweu, gwnïo, brodwaith, gwneud cardiau, crosio, macramé ac ati.

Dewch â'r hyn rydych chi'n gweithio arno neu dewch i eistedd a chael sgwrs gyda chrefftwyr eraill!

Date: 10 Chwefror 2025 13:00 - 16:00
Lleoliad
Lôn Plas Kynaston